Llyfr y Brenhinoedd

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Ail Lyfr y Brenhinoedd)

Dau lyfr yn yr Hen Destament yw Llyfr y Brenhinoedd.

Llyfr Cyntaf y Brenhinoedd[golygu | golygu cod]

Llyfr Cyntaf y Brenhinoedd yw'r cyntaf o'r ddau lyfr yn Yr Hen Destament a elwir weithiau gyda'i gilydd yn 'Llyfr y Brenhinoedd'. Hwn yw'r unfed llyfr ar ddeg yn yr Hen Destament canonaidd a'r Beibl Cristnogol. Mae'r awduraeth yn anhysbys.

Gyda'i gymar (Ail Lyfr y Brenhinoedd), Llyfr Cyntaf y Brenhinoedd (1 Bren) yw ein prif ffynhonnell ysgrifenedig am hanes brenhinoedd yr Hebreaid ar ôl y brenin Dafydd. Mae'n ailgydio yn y naratif lle mae'r llyfr blaenorol, Ail Lyfr Samuel, yn gorffen. Ceir ynddo hanes teyrnasiad Solomon a chodi Teml Jerwsalem ganddo. Ar ôl ei farwolaeth ymrannodd y deyrnas yn fân freniniaethu a cheir eu hanes yn yr ail lyfr.

Ail Lyfr y Brenhinoedd[golygu | golygu cod]

Ail Lyfr y Brenhinoedd yw'r ail o'r ddau lyfr yn Yr Hen Destament a elwir weithiau gyda'i gilydd yn 'Llyfr y Brenhinoedd'. Dyma'r deuddegfed lyfr yn yr Hen Destament canonaidd a'r Beibl Cristnogol. Mae'r awduraeth yn anhysbys.

Ail Lyfr y Brenhinoedd (2 Bren) yw'r prif ffynhonnell ysgrifenedig am hanes brenhinoedd yr Hebreaid ar ôl y brenin Solomon. Mae'n ailgydio yn y naratif lle mae'r llyfr blaenorol yn gorffen. Ar ôl marwolaeth Solomon ymrannodd y deyrnas yn fân frenhiniaethu a cheir eu hanes yn llyfr hwn. Y pwysicaf o'r teyrnasoedd hyn oedd Israel a Jwda. Ceir nifer o gyfeiriadau at y proffwydi Eliseus, Elias ac Eseia hefyd. Ar ôl hanes cwymp Israel i Assyria yn 722 CC mae'r naratif yn canolbwyntio ar hanes Jwda hyd at gyfnod yr Alltudiaeth ym Mabilon.