Llyfr Eseia

Oddi ar Wicipedia
Pren Jesse (cerflun yn eglwys gadeiriol Worms)

Llyfr Eseia neu Llyfr y Proffwyd Eseia yw 23ain llyfr yr Hen Destament. Ei dalfyraid arferol yw Eseia.

Emynau, gweledigaethau a phroffwydoliaethau ar ffurf fydryddol a geir ynddo yn bennaf. Maent i gyd yn cael eu priodoli i'r proffwyd Eseia, mab Amos, am dynged Jwda a Jerwsalem "yn ystod teyrnasiad Usseia, Jotham a Heseceia". Mae ei lach yn drwm ar frenhinoedd Babilon, Assyria, Damascus ac Ethiopia ac ar bechodau pobl Jwda. Ceir hefyd bennod sy'n darogan dyfodiad y Meseia ar lan Iorddonen.

Un o'r disgrifiadau enwocaf yn y llyfr yw hwnnw o Bren Jesse, sy'n dangos Jesse yn breuddwydio ar ei gefn gan weld coeden sy'n tyfu ohono ac sy'n cynrychioli ach Crist (Eseia 11:1-2).

Ceir yr unig gyfeiriad Beiblaidd at y dduwies/ddiafoles Lilith yn Llyfr Eseia.

Daw enw cofeb genedlaethol Israel i'r Holocost, Yad Vashem o 56:5 Llyfr Eseia: "dw i'n mynd i godi cofeb yn fy nhŷ, y tu mewn i'w waliau: rhywbeth gwell na meibion a merched, a rhoi enw iddyn nhw fydd yn para am byth."[1]

  1. "dw i'n mynd i godi cofeb yn fy nhŷ, y tu mewn i'w waliau: rhywbeth gwell na meibion a merched, a rhoi enw iddyn nhw fydd yn para am byth". Beibl.net. Cyrchwyd 2022-05-27.