Llyfr Micha

Oddi ar Wicipedia
Llyfr Micha
Enghraifft o'r canlynolysgrythur, un o lyfrau'r Beibl Edit this on Wikidata
AwdurMicha Edit this on Wikidata
Rhan oY mân broffwydi Edit this on Wikidata
Genrellyfrau proffwydol Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganLlyfr Jona, Llyfr Amos Edit this on Wikidata
Olynwyd ganLlyfr Nahum, Llyfr Joel Edit this on Wikidata
Yn cynnwysMicah 1, Micah 2, Micah 3, Micah 4, Micah 5, Micah 6, Micah 7 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Llyfr Micha neu Llyfr y Proffwyd Micha yw 33ain llyfr yr Hen Destament.

Cynnwys y llyfr[golygu | golygu cod]

Yn ôl y hanes y llyfr, Gofynnodd Duw i'r proffwyd Iddewig Micha ail-sefydlu heddwch a chyfiawnder yn Israel.

Mae'r llyfr yn nodi y bydd y Meseia'n cael ei eni ym Methlehem (Mi 5:1). Yn y llyfr, atgoffir y bobl fod yr Arglwydd wedi bod yn dda wrthynt, a gofynnir iddynt ddangos cyfiawnder, trugaredd, a gwyleidd-dra (Mi 6:8).

Yn ôl teitl ei Lyfr (Mi 1:1), yng nghyfnod tri brenin Jwda, sef Jotham, Ahas, a Heseceia yr oedd gweinidogaeth Micha, sef tua 740-687 cyn oes Crist. Roedd felly'n byw yn yr un cyfnod ag Eseia a Hoseia, ond yn ieuengach na nhw.

Mae'n proffwydo dinistr Samaria, prifddinas teyrnas Israel, cyn canolbwyntio ar deyrnas Jwda. Yn ei broffwydoliaethau, Yn ei broffwydoliaethau, mae Micha'n targedu arweinyddion Jwda yn bennaf, a'r hyn y mae cyfiawnder a chrefydd yn ei feddwl. Mae o'n rhagweld dinistr Jerwsalem a'r Deml yn ogystal â'r alltudiaeth ym Mabilon, cyn dyfodiad brenin achubol i Fethlehem.

Mae'r testun ynglŷn â curo cleddyfau yn sychau aradr (4:3) yn ymdebygu mewn mannau i Llyfr Eseia (2:4).

Mewn diwylliant[golygu | golygu cod]

Yn ei cherdd wrth arwisgo'r arlywydd Joe Biden, dyfynnodd Amanda Gorman o'r llyfr:

Scripture tells us to envision that everyone shall sit under their own vine and fig tree and no one shall make them afraid. If we’re to live up to our own time, then victory won’t lie in the blade, but in all the bridges we’ve made.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gorman, Amanda (2021-01-20). "The Hill We Climb: the Amanda Gorman poem that stole the inauguration show". the Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-01-23.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

https://www.bible.com/cy/bible/287/MIC.1.BWM - Beibl William Morgan

http://www.beibl.net/beibl-chwilio?viewid=BNET%3AMic.1 - Beibl.net