Sgroliau'r Môr Marw
Gwedd
| Enghraifft o: | arteffact archaeolegol, group of manuscripts, discovered text |
|---|---|
| Awdur | Unknown |
| Rhan o | Iddewiaeth |
| Yn cynnwys | The Great Psalms Scroll, War of the Sons of Light Against the Sons of Darkness, Qumran calendrical texts, 4QMMT, 1QpHab, Damascus Document, Copper Scroll |
![]() | |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0kbnw |

Casgliad o lawysgrifau a ganfuwyd mewn ogofâu ger y Môr Marw rhwng 1947 a 1956 yw Sgroliau'r Môr Marw. Fe'u hysgrifennir yn Hebraeg yn bennaf, ar barsment, brwynbapur a chopr, ac maent yn dyddio'n ôl i'r cyfnod 150 CC i 68 OC. Maent yn cynnwys rhannau o'r Beibl Hebraeg, hynny yw yr Hen Destament, a thestunau crefyddol eraill.
Bu darganfyddiad y sgroliau o bwysigrwydd enfawr i archaeoleg y Dwyrain Agos a hanesyddiaeth y Beibl. Gan astudio'r sgroliau, tybir ysgolheigion i ganon y Beibl Hebraeg ffurfio cyn y flwyddyn 70 OC, a theflir goleuni ar hanes Palesteina o'r 4g CC hyd 135 OC gan gynnwys hanes cynnar Cristnogaeth.
