Apocryffa'r Testament Newydd

Ysgrifau gan Gristnogion yn oes yr Eglwys Fore sydd yn cynnwys straeon am fywyd Iesu Grist a'i ddysgeidiaeth, natur y Duw Cristnogol, neu ddysgeidiaeth a bywydau'r apostolion yw Apocryffa'r Testament Newydd. Cafodd rhai ohonynt eu hystyried yn ysgrythur gan Gristnogion cynnar, ond ers y 5g ni chynhwysir y gweithiau hyn yng nghanon y Testament Newydd, ac felly fe'i ystyrient yn apocryffa.
Rhwng yr 2g a'r 4g, ysgrifennwyd mwy na chant o lyfrau gan awduron Cristnogol a ystyrir yn Apocryffa. Nodai'r fath weithiau gan eu ffurf gyffredin, sydd yn debyg i genres y Testament Newydd (efengyl, actau, epistolau, ac apocalyps), a'r ffaith nad ydynt yn perthyn i ganon y Testament Newydd nac i ysgrifeniadau Tadau'r Eglwys. Ysgrifennwyd nifer ohonynt gan y Gnostigiaid, a chawsant eu rhannu ymhlith y rhai a ynydwyd yn unig. Cafodd eraill eu hysgrifennu ar gyfer yr eglwysi cyffredinol, ond na chawsant eu derbyn yn rhan o'r canon Beiblaidd.
Efengylau[golygu | golygu cod y dudalen]
Efengylau'r babandod[golygu | golygu cod y dudalen]
- Efengyl y Babandod yn ôl Iago
- Efengyl y Babandod yn ôl Tomos
- Efengyl y Babandod yn ôl y ffug-Fathew (Mabinogi Iesu Grist)
- Efengyl Syrieg y Babandod
- Hanes Joseff y Saer
- Buchedd Ioan Fedyddiwr
Efengylau Iddewig–Gristnogol[golygu | golygu cod y dudalen]
- Efengyl yr Ebioniaid
- Efengyl yr Hebreaid
- Efengyl y Nasareaid
Efengylau anghanonaidd[golygu | golygu cod y dudalen]
- Yr Efengyl yn ôl Marcion
- Yr Efengyl yn ôl Mani
- Yr Efengyl yn ôl Apelles
- Yr Efengyl yn ôl Bardesanes
- Yr Efengyl yn ôl Basilides
Efengyl dywediadau'r Iesu[golygu | golygu cod y dudalen]
- Yr Efengyl yn ôl Tomos
Efengylau'r dioddefaint[golygu | golygu cod y dudalen]
- Yr Efengyl yn ôl Pedr
- Yr Efengyl yn ôl Nicodemus, neu Actau Peilat
- Buchedd a Dioddefaint Crist (gan y ffug-Cyril)
- Yr Efengyl yn ôl Bartholomeus
- Ymholiadau Bartholomeus
- Atgyfodiad Iesu Grist (a briodolir i Bartholomeus)
Efengylau cytûn[golygu | golygu cod y dudalen]
- Diatessaron
Testunau Gnostigaidd[golygu | golygu cod y dudalen]
Ymgomion â'r Iesu[golygu | golygu cod y dudalen]
- Apocryffon Iago
- Llyfr Tomos
- Ymgom y Gwaredwr
- Yr Efengyl yn ôl Jwdas
- Yr Efengyl yn ôl Mair Fadlen
- Yr Efengyl yn ôl Philip
- Efengyl Roeg yr Eifftiaid
- Soffia Iesu Grist
Testunau cyffredinol ynglŷn â'r Iesu[golygu | golygu cod y dudalen]
- Apocalyps Copteg Pawl
- Efengyl y Gwir
- Apocalyps Gnostigaidd Pedr
- Llythyr Lentulus
- Pistis Sophia
- Ail Traethawd Seth Fawr
Testunau'r Sethiaid[golygu | golygu cod y dudalen]
- Apocryffon Ioan
- Efengyl Gopteg yr Eifftiaid
- Trimorphic Protennoia
Defodlyfrau[golygu | golygu cod y dudalen]
- Diagramau'r Offiaid
- Llyfrau Jeu
Actau'r Apostolion[golygu | golygu cod y dudalen]
- Actau Andreas
- Actau Barnabas
- Actau Ioan
- Actau Mar Mari
- Actau'r Merthyron
- Actau Pawl
- Actau Pawl a Thecla
- Actau Pedr
- Actau Pedr ac Andreas
- Actau Pedr a Phawl
- Actau Pedr a'r Deuddeg
- Actau Philip
- Actau Peilat
- Actau Tomos
- Actau Timotheus
- Actau Xanthippe, Polyxena, a Rebeca
Llythyrau[golygu | golygu cod y dudalen]
- Llythyr Barnabas
- Llythyrau Clement
- Llythyr y Corinthiaid at Bawl
- Llythyr Ignatius at y Smyrnaeaid
- Llythyr Ignatius at y Traliaid
- Llythyr Polycarp at y Philipiaid
- Llythyr Diognetus
- Llythyr Pawl at y Laodiceaid
- Llythyr Pawl at Seneca'r Ieuaf
- Trydydd Llythyr Pawl at y Corinthiaid
Apocalypsau[golygu | golygu cod y dudalen]
- Apocalyps Pawl
- Apocalyps Pedr
- Apocalyps y ffug-Methodius
- Apocalyps Tomos neu Ddatguddiad Tomos
- Apocalyps Steffan neu Ddatguddiad Steffan
- Apocalyps Cyntaf Iago neu Ddatguddiad Cyntaf Iago
- Ail Apocalyps Iago neu Ail Ddatguddiad Iago
- Bugail Hermas
Tynged y Forwyn Fair[golygu | golygu cod y dudalen]
- Dychweliad Mair
- Huniad Mam Duw
- Genedigaeth Mair
Testunau amrywiol[golygu | golygu cod y dudalen]
- Cyfansoddiadau Apostolaidd
- Llyfr Nepos
- Canonau'r Apostolion
- Ogof y Trysorau
- Llên Glemennaidd
- Didache (holwyddoreg)
- Litwrgi Sant Iago
- Edifeirwch Origen
- Gweddi Pawl
- Brawddegau Sextus
- Physiologus
- Llyfr y Wenynen
Dernynnau[golygu | golygu cod y dudalen]
- Efengyl Anhysbys Berlin
- Y Dernyn Naseanaidd
- Dernyn Fayyum
- Cudd-Efengyl Marc
- Efengylau Oxyrhynchus
- Dernyn Egerton
Gweithiau coll[golygu | golygu cod y dudalen]
- Efengyl Efa
- Efengyl y Pedair Teyrnas Nefol
- Efengyl Matthias
- Efengyl Perffeithder
- Efengyl y Deg a Thrigain
- Efengyl Thaddaeus
- Efengyl y Deuddeg
- Memoria Apostolorum