Saul
Gwedd
| Saul | |
|---|---|
| Ganwyd | 1080 CC Gibeah |
| Bu farw | 1010 CC o gwaediad Mount Gilboa |
| Dinasyddiaeth | Brenhiniaeth Israel |
| Galwedigaeth | gwleidydd, teyrn |
| Swydd | King of Israel, proffwyd |
| Tad | Kish |
| Priod | Achinoam, Rizpah |
| Plant | Jonathan, Merab, Michal, Ish-bosheth, Abinadab, Armoni, Mephibosheth, Ishvi, Malchishua |
- Mae'r erthygl yma am y brenin y ceir ei hanes yn yr Hen Destament. Am ystyron eraill, gweler Saul (gwahaniaethu)

Cymeriad yn yr Hen Destament oedd Saul. Ef oedd brenin cyntaf teyrnas unedig Israel.
Roedd yn fab i Cis, ac yn perthyn i lwyth Benjamin. Gwnaed ef yn frenin yn Gilgal, tua 1025 CC. Roedd ganddo nifer o feibion, gan gynnwys Jonathan ac Abinadab, a dwy ferch, Merab a Michal.
Yn ôl yr Hen Destament, gwnaed ef yn frenin oherwydd bygythiad y Ffilistiaid a'r Amaleciaid. Enillodd fuddugoliaethau drostynt, ond datblygodd cweryl rhyngddo ef a Samuel. Gorchfygwyd ef gan y Ffilistiaid yn Gilboa, a lladdwyd ef a'i fab, Jonathan. Olynwyd ef gan ei fab, Isboseth, ar wahân i lwyth Jiwda, a ddewisodd Dafydd yn frenin arnynt. Yn y blynyddoedd dilynol, cipiodd Dafydd yr orsedd oddi wrth Isboseth.