Samuel

Oddi ar Wicipedia
Samuel yn cysegu Dafydd

Cymeriad yn yr Hen Destament, proffwyd ac un o'r barnwyr oedd Samuel (Hebraeg: שְׁמוּאֵל). Ceir ei hanes yn Llyfr Cyntaf Samuel ac Ail Lyfr Samuel.

Roedd yn fab i Elcana a'i wraig Hanna. Bu Hanna yn ddiblant am gyfnod maith, ac addawodd pe câi blentyn y byddai'n ei gysegru i Dduw. Ganwyd Samuel, a phan ddaeth yn ddigon hen, aeth Hanna ag ef i'r offeiriad Eli i wasanaethu yn y tabernacl. Yno, galwyd ef gan Dduw liw nos.

Wedi marwolaeth Eli a'i feibion, symudodd Samuel i Rama. Pan aeth i oedran, gwnaeth ddau o'i feibion yn farwnwyr ar Israel yn ei le, ond roedd y bobl yn anfodlon ac yn mynnu cael brenin. Cysegrodd Samuel Saul yn frenin cyntaf Israel. Yn ddiweddarach, bu cweryl rhwng Samuel a Saul, a chysegrodd Samuel Dafydd yn lle Saul.