Llysieuaeth
- Mae'r erthygl hwn yn cyfeirio at ddiet dyn, ar gyfer diet anifeiliaid sy'n seiliedig ar blanhigion gweler llysyddiaeth

Diet sy'n eithrio cig (gan gynnwys helwriaeth, pysgod, dofednod ac unrhyw sgîl-gynnyrch lladd anifeiliaid) yw cigwrthodaeth, bwydlysyddiaeth neu lysieuaeth.[1][2] Mae sawl amrywiaeth ar y diet sy'n eithrio wyau a neu unrhyw gynnyrch anifeiliaid megis cynnyrch llaeth a mêl. Mae person sy'n ymarfer cigwrthodaeth yn cael ei adnabod fel llysfwytäwr neu gigwrthodwr.
Math o gigwrthodaeth yw'r feganiaeth, sy'n eithrio pob cynnyrch anifeiliaid megis cig, pysgod, cynnyrch llaeth ac wyau. Mae feganiaeth gaeth hefyd yn eithrio'r defnydd o gynnyrch anifeiliaid megis gwlân, sidan, lledr a ffwr ar gyfer gwisg neu addurn, er nad yw'r rhain yn ymwneud â marwolaeth neu laddfa anifail.[3]
Mae'r rhan fwyaf o lysfwytawyr yn bwyta cynnyrch llaeth ac wyau. Mae llaethlysfwytäwr yn bwyta cynnyrch llaeth ond yn eithrio wyau, wylysfwytäwr yn bwyta wyau ond nid cynnyrch llaeth, ac mae wylaethlysfwytäwr yn bwyta wyau a chynnyrch llaeth.
Mae diet rhannol-gigwrthodaeth yn cynnwys bwydlysiau'n bennaf, ond hefyd yn cynnwys pysgod ac weithiau dofednod, yn ogystal ag wyau a chynnyrch llaeth. Mae'r cysylltiad rhwng rhannol-gigwrthodaeth a gwir gigwrthodaeth yn gyffredin yn achosi cymysgedd yn yr eirfa, yn arbennig pysglysieuaeth sy'n cynnwys pysgod, a cham-gategoreiddio nifer o ddietau fel rhai llysfwytäol.[4][5] Dechreuwyd defnyddio'r term Saesneg vegetarian yn gyffredin gan Gymdeithas y Llysieuwyr, cyn gynhared â 1847, mae'r gymdeithas yn condemnio cysylltiad dietau rhannol-gigwrthodaeth fel cigwrthodaeth ddilys; mae'n gymdeithas yn dweud nad yw bwyta pysgod yn llysfwytäol.[6]
Mae'r rhesymau dros ddewis cigwrthodaeth yn amrywio o foesoldeb, crefydd, diwylliant, moeseg, estheteg, amgylchedd, cymdeithas, economi, gwleidyddiaeth, blas neu iechyd. Mae dietau llysfwytäol sydd wedi eu cynllunio'n gywir wedi eu canfod i ateb anghenion maeth pob cyfnod o fywyd, ac mae astudiaethau ehangach wedi dangos fod cigwrthodaeth yn arwain i debygolrwydd llai o ddatblygu cancr, isgemia'r galon a chlefydau eraill.[7][8][9][10]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) The Vegetarian Society - Definitions Information Sheet. The Vegetarian Society.
- ↑ (Saesneg) Vegetarian. Compact Oxford English Dictionary. "a person who does not eat meat for moral, religious, or health reasons. diffinnir 'meat' fel 'the flesh of an animal as food']"
- ↑ (Saesneg) Diffiniad geiriadur o'r gair 'Vegan'
- ↑ Vegetarian Meal Planning. uwhealth.org.
- ↑ Bryant A. Stamford, Becca Coffin (1995). The Jack Sprat Low-Fat Diet. University Press of Kentucky. ISBN 081310856X, 9780813108568
- ↑ "VEGETARIANS DO NOT EAT FISH!" Archifwyd 2015-03-15 yn y Peiriant Wayback Ymgyrch Pysgod Cymdeithas y Llysieuwyr
- ↑ Timothy J Key ac eraill, "Mortality in vegetarians and nonvegetarians: detailed findings from a collaborative analysis of 5 prospective studies" American Journal of Clinical Nutrition, Vol. 70, No. 3, 516S-524S, Medi 1999 [1]
- ↑ Timothy J Key ac eraill, "Mortality in British vegetarians: review and preliminary results from EPIC-Oxford" American Journal of Clinical Nutrition, Vol. 78, No. 3, 533S-538S, Medi 2003 [2]
- ↑ Vegetarian Diets. American Dietetic Association a Dietitians of Canada.
- ↑ Meat can raise your lung cancer risk, too. MSNBC (11 Rhagfyr 2007).
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Gwybodaeth Llysieuaeth a Feganiaeth
