Cymdeithas y Llysieuwyr
| Enghraifft o: | sefydliad elusennol, vegetarian organization |
|---|---|
| Dechrau/Sefydlu | 30 Medi 1847 |
| Gweithwyr | 26, 27, 28, 29, 18, 23 |
| Ffurf gyfreithiol | sefydliad elusennol |
| Pencadlys | Manceinion |
| Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
| Rhanbarth | y Deyrnas Unedig |
| Gwefan | https://vegsoc.org |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/02z68t |
Elusen Prydeinig yw Cymdeithas y Llysieuwyr (Saesneg: Vegetarian Society), a sefydlwyd ar 30 Medi 1847 er mwyn hybu dealltwriaeth a pharch tuag at ffordd o fyw llysfwytäol.
Hanes
[golygu | golygu cod]Cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf a gofnodir o Gymdeithas y Llysieuwyr yn Northwood Villa, ysbyty llysfwytäol yn Ramsgate, Caint yn 1847. Cynhaliwyd eu cyfarfod cyhoeddus cyntaf ym Manceinion y flwyddyn canlynol. Yn 1848, cyhoeddodd y gymdeithas rifyn cyntaf eu cylchgrawn, The Vegetarian.
Honnai'r gymdeithas mai hwy yw'r gymdeithas hynaf i hybu cigwrthodaeth yn fyd eang, ond mae nifer o gymdeithasau crefyddol hŷn yn y Dwyrain sydd hefyd yn hybu ymwrthod â chig, ac yn gwahardd niweidio anifeiliaid. Adnabyddwyd llysfwytawyr fel ‘Pythagoreaid’ cyn sefydliad y gymdeithas. Honnir yn aml i'r term Saesneg vegetarian gael ei greu ar 30 Medi 1847 yn eu cyfarfod cyntaf, ond mae Oxford English Dictionary yn dyfynnu dau ddefnydd cynharach, yn 1839 a 1842, ond mae yn dweud mai sefydliad y gymdeithas a oedd yn gyfrifol am ddefnydd cyffredin y gair.
Aelodau o nôd
[golygu | golygu cod]Mae aelodau o nôd yn cynnwys Isaac Pitman, Mahatma Gandhi, Jorja Fox, George Bernard Shaw, Paul, Linda a Stella McCartney.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) The Vegetarian Society
- (Saesneg) The Cordon Vert School Archifwyd 2008-10-24 yn y Peiriant Wayback