KwaZulu-Natal
Gwedd
| Delwedd:Monks Cowl (15127602555).jpg, South Africa KwaZulu-Natal relief location map.svg | |
| Math | province of South Africa |
|---|---|
| Prifddinas | Pietermaritzburg |
| Poblogaeth | 12,423,907 |
| Sefydlwyd | |
| Pennaeth llywodraeth | Thami Ntuli |
| Cylchfa amser | UTC+2 |
| Gefeilldref/i | Shanghai |
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 94,361 km² |
| Uwch y môr | 1,276 metr |
| Yn ffinio gyda | Mpumalanga, Shiselweni Region, Lubombo Region, Talaith Maputo, Mokhotlong District, Thaba-Tseka District, Qacha's Nek District, Eastern Cape, Free State |
| Cyfesurynnau | 29°S 31°E |
| ZA-KZN | |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff gweithredol | KwaZulu-Natal Executive Council |
| Corff deddfwriaethol | KwaZulu-Natal Legislature |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | Premier of KwaZulu-Natal |
| Pennaeth y Llywodraeth | Thami Ntuli |
![]() | |
Un o daleithiau De Affrica yw KwaZulu-Natal. Crëwyd y dalaith yn 1994 trwy uno talaith Natal a'r tiriogaethau oedd gynt yn ffurfio Teyrnas y Zulu. Roedd y boblogaeth yn 2015 yn 10,919,100. Prifddinas y dalaith yw Pietermaritzburg, a'r ddinas fwyaf yw Durban.

Yn 1839, sefydlwyd Gweriniaeth Natalia gan y Voortrekkers, ond yn 1843 meddiannwyd y dalaith gan Brydaon. Wedi diwedd Apartheid, roedd tiriogaeth y Zulu yn gadarnle Plaid Rhyddid Inkatha dan Mangosuthu Buthelezi. Pan wnaed cytundeb heddwch rhwng yr ANC ag Inkatha, ffurfiwyd taliath newydd KwaZulu-Natal. Mae brenin y Zulu, Goodwill Zwelethini kaBhekuzulu, yn parhau i deyrnasu, ond heb ran uniongyrchol yn y llywodraeth bellach.
