Temtiad Crist

Oddi ar Wicipedia
Temtiad Crist
Enghraifft o'r canlynolstori Feiblaidd, pericope, verse of the Bible Edit this on Wikidata
Rhan oMatthew 4 Edit this on Wikidata
CymeriadauIesu, diafol Edit this on Wikidata
LleoliadMynydd y Temtasiwn Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Paentiad o Iesu a Satan ar ben y mynydd, gan Ary Scheffer (1854)

Stori Feiblaidd a geir yn efengylau Mathew, Marc a Luc yw Temtiad Crist. Yn ôl y testunau hyn, wedi i'r Iesu gael ei fedyddio gan Ioan Fedyddiwr, fe ymprydiodd yn Anialwch Jwdea am ddeugain niwrnod. Ymddangosodd Satan iddo, a cheisiodd ei demtio. Gwrthodai pob un demtasiwn ganddo, ac ymadawodd Satan a dychwelodd Iesu i Galilea.

Y temtasiynau a gynigwyd gan Satan oedd pleseryddiaeth, myfïaeth, a materoliaeth, ar ffurf fydol ei foddhad, ei nerth, a chyfoeth. Gelwir y rhain gan Ioan yr Efengylydd yn ei lythyr cyntaf yn "blys am bleserau corfforol, chwant am bethau materol, a brolio am beth sydd gynnon ni a beth dŷn ni wedi'i gyflawni".[1] Cyferbynnir y tair temtasiwn hon â'r rhinweddau diwinyddol: ffydd, gobaith, a chariad; y delfrydau trosgynnol: gwyddoniaeth, celfyddyd, a chrefydd; a'r gorchymyn gan Iesu i garu Duw "â'th holl galon, ac â'th holl enaid a'th holl feddwl" (Mathew 22:37).[2]

Hanes cryno a geir gan yr efengylydd Marc. Disgrifir y temtiad yng ngeiriau Iesu a Satan gan Fathew a Luc. Gan fod elfennau'r stori yn ôl Mathew a Luc yn debyg eu ffurf, hynny yw ymgom yn hytrach nag adroddiant manwl, cred nifer o ysgolheigion bod y manylion hyn sy'n ychwanegol ar destun Marc yn deillio o'r ffynhonnell dybiedig "Q", rhyw gasgliad o ddywediadau neu logia Iesu. Ni sonir am demtiad Crist yn yr Efengyl yn ôl Ioan, ond dywed Iesu: "fod Satan, tywysog y byd hwn, ar ei ffordd. Ond does ganddo ddim awdurdod drosof fi."[3]

Mae amryw ddamcaniaethau wedi eu cynnig gan ysgolheigion Beiblaidd i geisio esbonio temtiad Crist. Cred nifer o Gristnogion yn wirionedd y stori yn ôl yr efengylau. Rhai a dybiant i'r cyfan ddigwydd mewn gweledigaeth: eraill, fod y demtasiwn wedi ei hawgrymu yn fewnol, neu i feddwl Iesu, eraill drachefn, mai dameg ydyw o eiddo Iesu Grist, ac efe ei hun yn destun iddi.

Straeon yr efengylau[golygu | golygu cod]

Mathew 4:1–11[4] Marc 1:12–13[5] Luc 4:1–13[6]
"Yn syth wedyn dyma'r Ysbryd yn arwain Iesu allan i'r anialwch i gael ei demtio gan y diafol. Ar ôl bwyta dim byd am bedwar deg diwrnod, roedd yn llwgu. Dyna pryd y daeth y diafol i'w demtio. “Os mai Mab Duw wyt ti, gwna i'r cerrig yma droi'n fara,” meddai.

“Na!”, atebodd Iesu, “Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud mai ‘Nid bwyd ydy'r unig beth mae pobl ei angen i fyw, ond popeth mae Duw yn ei ddweud.’”
Wedyn dyma'r diafol yn mynd â Iesu i'r ddinas sanctaidd (hynny ydy Jerwsalem) a gwneud iddo sefyll ar y tŵr uchaf un yn y deml. “Os mai Mab Duw wyt ti,” meddai, “neidia i lawr o'r fan yma. Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud:
‘Bydd Duw yn gorchymyn i'w angylion
dy ddal yn eu breichiau,
fel na fyddi'n taro dy droed ar garreg.’”
Atebodd Iesu, “Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud hefyd: ‘Paid rhoi'r Arglwydd dy Dduw ar brawf.’”
Yna dyma'r diafol yn mynd ag e i ben mynydd uchel iawn, a dangos holl wledydd y byd a'u cyfoeth iddo. A dwedodd y diafol wrtho, “Cei di'r cwbl gen i os gwnei di blygu i lawr i fy addoli i.”
Ond dyma Iesu'n dweud, “Dos i ffwrdd Satan! Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: ‘Addola'r Arglwydd dy Dduw, a'i wasanaethu e'n unig.’”
Yna dyma'r diafol yn ei adael, a daeth yr angylion ato a gofalu amdano."

"Yn syth wedyn dyma'r Ysbryd yn gyrru Iesu allan i'r anialwch. Arhosodd yno am bedwar deg diwrnod, yn cael ei demtio gan Satan. Roedd anifeiliaid gwyllt o'i gwmpas, ond roedd yno angylion yn gofalu amdano."

"Roedd Iesu'n llawn o'r Ysbryd Glân pan aeth yn ôl o ardal yr Iorddonen. Gadawodd i'r Ysbryd ei arwain i'r anialwch, lle cafodd ei demtio gan y diafol am bedwar deg diwrnod. Wnaeth Iesu ddim bwyta o gwbl yn ystod y dyddiau yna, ac erbyn y diwedd roedd yn llwgu.
Dyma'r diafol yn dweud wrtho, “Os mai Mab Duw wyt ti, gwna i'r garreg yma droi'n dorth o fara.”
Atebodd Iesu, “Na! Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: ‘Dim bwyd ydy'r unig beth mae pobl ei angen i fyw.’”
Dyma'r diafol yn ei arwain i le uchel ac yn dangos holl wledydd y byd iddo mewn eiliad. Ac meddai'r diafol wrtho, “Gwna i adael i ti reoli'r rhain i gyd, a chael eu cyfoeth nhw hefyd. Mae'r cwbl wedi'u rhoi i mi, ac mae gen i hawl i'w rhoi nhw i bwy bynnag dw i'n ei ddewis. Felly, os gwnei di fy addoli i, cei di'r cwbl.”
Atebodd Iesu, “Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: ‘Addola'r Arglwydd dy Dduw, a'i wasanaethu e'n unig.’”
Dyma'r diafol yn mynd â Iesu i Jerwsalem a gwneud iddo sefyll ar y tŵr uchaf un yn y deml. “Os mai Mab Duw wyt ti,” meddai, “neidia i lawr o'r fan yma. Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud:
‘Bydd Duw yn gorchymyn i'w angylion
dy gadw'n saff;
byddan nhw'n dy ddal yn eu breichiau,
fel na fyddi'n taro dy droed ar garreg.’”
Atebodd Iesu, “Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud hefyd: ‘Paid rhoi'r Arglwydd dy Dduw ar brawf.’”
Pan oedd y diafol wedi ceisio temtio Iesu bob ffordd bosib, gadawodd iddo nes i gyfle arall godi."

Dadansoddi a dehongli[golygu | golygu cod]

Llythrenoliaeth[golygu | golygu cod]

Yn ôl ysgol llythrenoliaeth Feiblaidd, adroddiad o'r hyn a ddigwydd yn weithredol a gwirioneddol yw stori'r temtiad; sef, i Iesu gael ei arwain yn uniongyrchol ar ôl ei fedydd i'r anialwch gan yr Ysbryd, i'w demtio gan Satan. Daeth y diafol yno yn bersonol i'w demtio, ymddangosodd iddo mewn ffurf weledig, llefarodd wrtho mewn llais clywadwy, a chymerodd ef i fynydd uchel ac i Gaersalem, a'i gosododd ar ben y deml. Mae'r rhai sydd yn esbonio yr hanes yn llythrennol, yn ôl y syniad mwyaf cyffredinol amdano, yn dadlau nad oes dim yn cael ei ddweud gan yr efengylwyr a awgryma y syniad o weledigaeth, a nas gallai y temtiad o newyn fod mewn rhith yn unig. Haerir ei fod yn beth tebygol y buasai ymdrechfa rhwng Crist a Satan, ar waith y blaenaf yn dechrau ar ei weinidogaeth. Gan fod Satan wedi llwyddo i gael pen yr Adda cyntaf i lawr yn Genesis, gobeithiai lwyddo i wneuthur yr un modd gyda'r ail Adda, hynny yw Iesu.[7]

Tybiaeth y weledigaeth[golygu | golygu cod]

Paentiad o Iesu yn yr anialwch, gan Ivan Kramskoi (1872).

Dadleuir eraill fod yr efengylwyr yn disgrifio y temtiad fel gweledigaeth neu ddatguddiaeth ysbrydol yn unig. Mathew (4:1) a ddywed, "Yn syth wedyn dyma'r Ysbryd yn arwain Iesu allan i'r anialwch i gael ei demtio gan y diafol"; Marc (1:12) a ddywed, "Yn syth wedyn dyma'r Ysbryd yn gyrru Iesu allan i'r anialwch"; a Luc (4:1) a ddywed, "Gadawodd i'r Ysbryd ei arwain i'r anialwch". Haerir nad ydyw yr ymadroddion hyn yn cynnwys dim mwy na'i fod wedi mynd i leoliad penodol o dan gynhyrfiad neu arweiniad yr Ysbryd Glân, ac ymresymir felly taw'r hwn a wnaeth ddatguddiaethau iddo. O ran y newyn, dywedir fod proffwydi'r Hen Destament yn profi rhyw deimladau perthynol i'r corff yn eu gweledigaethau, er enghraifft Eseciel 3:3[8] a Daniel 10:10.[9]

Dadleuir hefyd na bu ymdrechfa bersonol rhwng yr Adda cyntaf a Satan; y gallasai holl ddibenion temtiad Iesu gael eu hateb trwy weledigaeth; a pha beth bynnag oedd y moddion, fod yr effaith a fwriedid gynhyrchu i fod ar ei feddwl a'i deimladau moesol, fel gweledigaeth Pedr ynghylch Cornelius (Actau 10:11–17).[10] O barthed i osod Crist ar "fynydd uchel", cyfeirir at Eseciel 40:2: "Aeth â fi yno mewn gweledigaeth a'm gosod ar ben mynydd uchel iawn."[11] Dywed hefyd yn Llyfr y Datguddiad 21:10: "Dyma'r angel yn fy nghodi dan ddylanwad yr Ysbryd a mynd â fi i fynydd mawr uchel."[12]

Dameg ac esiampl[golygu | golygu cod]

Gofynnir yn aml, pam y goddefwyd i Satan i sarhau a themtio Mab Duw, a pham y goddefodd Iesu i'w ymneilltuaeth gael ei gynhyrfu gan awgrymiadau yr un drwg. Ceisiai sawl ysgolhaig ateb y dryswch hwn drwy ddehongli stori'r temtiad yn ddameg, aralleg, neu foeswers sydd o fudd i'r Cristion, ac nid o reidrwydd yn ddigwyddiad geirweir ym mywyd Iesu. Dadleuir ei fod drwy hyn wedi rhoddi prawf o'i iselder a'i ymddarostyngiad ei hun a phrofi ei allu a'i awdurdod ar y temtiwr, ac felly rhoddodd esiampl o rinwedd a diysgogrwydd i'w ddilynwyr. Dywed hefyd, gan gyfeirio at Hebreaid 2:18[13] a 4:15,[14] bod y stori yn dwyn cysur a diddanwch i'w bobl a fyddant yn dioddef ac mewn trallod, trwy ddangos, nid yn unig iddo ef ei hun gael ei demtio, ond hefyd ei fod yn abl i gynorthwyo y rhai a demtir.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1 Ioan 2, beibl.net. Adalwyd ar 11 Mai 2017.
  2. Mathew 22, beibl.net. Adalwyd ar 11 Mai2017.
  3. Ioan 14, beibl.net. Adalwyd ar 11 Mai 2017.
  4. Mathew 4, beibl.net. Adalwyd ar 24 Mai 2017.
  5. Marc 1, beibl.net. Adalwyd ar 24 Mai 2017.
  6. Luc 4, beibl.net. Adalwyd ar 24 Mai 2017.
  7. (Saesneg) Temptation of Christ, Catholic Encyclopedia (1912). Adalwyd ar 11 Medi 2017.
  8. Yr Arglwydd yn dewis Eseciel: "A dyma fe'n dweud, “Ddyn, llenwa dy fol gyda'r sgrôl yma dw i'n ei rhoi i ti.” A dyma fi'n ei bwyta. Roedd hi'n blasu'n felys fel mêl."
    Eseciel 3, beibl.net. Adalwyd ar 11 Mai 2017.
  9. Gweledigaeth Daniel ar lan afon Tigris: "Ond yna dyma law yn fy nghyffwrdd, a'm codi ar fy nwylo a'm gliniau."
    Daniel 10, beibl.net. Adalwyd ar 11 Mai 2017.
  10. Actau 10, beibl.net. Adalwyd ar 11 Mai 2017.
  11. Eseciel 40, beibl.net. Adalwyd ar 11 Mai 2017.
  12. Datguddiad 21, beibl.net. Adalwyd ar 5 Mai 2017.
  13. Iesu wedi'i wneud yn debyg i'w frodyr a'i chwiorydd: Am ei fod e'i hun wedi dioddef ac wedi cael ei demtio, mae'n gallu'n helpu ni pan fyddwn ni'n wynebu temtasiwn.
    Hebreaid 2, beibl.net. Adalwyd ar 11 Mai 2017.
  14. Iesu yr Archoffeiriad mawr: "Ac mae'n Archoffeiriad sy'n deall yn iawn mor wan ydyn ni. Mae wedi cael ei demtio yn union yr un fath â ni, ond heb bechu o gwbl."
    Hebreaid 4, beibl.net. Adalwyd ar 11 Mai 2017.
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun sydd wedi ei addasu o Y Gwyddoniadur Cymreig, cyhoeddiad sydd yn y parth cyhoeddus.