Athroniaeth y meddwl

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynol un o ganghennau athroniaeth Edit this on Wikidata
Math athroniaeth Edit this on Wikidata
Rhan o termau seicoleg Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cangen o athroniaeth yn ymwneud ag ontoleg a natur y meddwl a’i berthynas â'r corff yw athroniaeth y meddwl. Y prif bwnc sy'n tynnu sylw athroniaeth y meddwl ydy problem y meddwl a’r corff.

Datblygodd y gysyniadaeth gyfoes ynglŷn ag athroniaeth y meddwl yn sgil gwaith René Descartes (1596–1650), a’i ddamcaniaeth a elwir deuoliaeth Gartesaidd neu ddeuoliaeth seicogorfforol. Disgrifia Descartes holl-wahaniaeth metaffisegol rhwng dwy fath o sylwedd, y meddyliol neu'r seico a'r corfforol neu ffisegol.[1] Gwrthwynebir deuoliaeth gan y monyddion, sydd yn dal taw un fath o sylwedd yn unig sydd yn y bydysawd. Y ddwy brif ffurf ar fonyddiaeth, wrth gwrs, yw delfrydiaeth, sydd yn haeru taw realiti y meddwl ydy'r unig wirionedd, a materoliaeth, sydd yn cydnabod bodolaeth mater ffisegol yn unig.

Deuoliaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Darluniad yn dychmygu archangel yn datguddio natur ffisegol y bydysawd i griw o athronwyr a gwyddonwyr, Descartes yn eu plith.

Yn ôl Descartes, dwy fath o sylwedd sydd yn y bydysawd: y meddyliol a'r corfforol. Meddyliau, neu ymwybyddiaeth, yw hanfod y meddwl, ac estyniad neu ddimensiwn gofodol yw hanfod y byd materol. Natur anwahanadwy, ac felly anninistriadwy, sydd gan y meddwl, tra bo cyrff yn anfeidraidd wahanadwy. Honna hefyd bod y meddwl yn ymddwyn yn rhydd, tra bod natur ffisegol y corff yn ei bennu, ac felly yn ei gyfyngu. Trwy ei ddatganiad enwog cogito, ergo sum ("meddyliaf, felly yr wyf"), dywed Descartes ein bod yn gwybod y meddwl yn uniongyrchol; ar y llaw arall, gwyddys cyrff trwy foddion anuniongyrchol.

Mae athronwyr eraill wedi mynegi sawl gwrthwynebiad i ddeuoliaeth Gartesaidd yn y ddadl dros broblem y meddwl a'r corff. Y briff drafferth ydy esbonio sut mae'r meddwl a'r corff yn rhyngweithio a sut y gallai'r naill effeithio yn achosol ar y llall os ydynt yn hanfodol wahanol. Gwrthwynebir damcaniaeth Descartes hefyd am iddo bwysleisio rhyddid y meddwl mewn cyferbyniad â chyfyngiad y corff: gan fod y corff yn cyfyngu ar ddymuniadau'r meddwl, ymddengys y fath ryddid yn amherthnasol. Mae sawl gwrthwynebiad sgeptigaidd i ddeuoliaeth, er enghraifft, sut y gallem wybod bodolaeth meddyliau eraill, a sut y gallem wybod y byd allanol o gwbl? Ar bwnc yr ymwybod, sut mae'n bosib i feddwl fod yn anymwybodol, er enghraifft ynghwsg? Mae anifeiliaid hefyd yn peri anhawster i ddeuoliaeth, gan eu bod yn ymddwyn fel petai ganddynt feddwl. Gan fod y meddwl yn anninistriadwy, byddai anifeiliaid yn ogystal â bodau dynol yn meddu ar enaid tragwyddol. Byddai hyn yn codi sawl cwestiwn ynglŷn â natur anifeiliaid, o safbwyntiau crefyddol ac athronyddol. Methiant a fu ymdrechion i ymateb i'r gwrthwynebiadau hyn o fewn y fframwaith Cartesaidd, ac felly try nifer o athronwyr at ddamcaniaethau monyddol i geisio datrys problem y meddwl a'r corff.[2]

Monyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Delfrydiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ôl damcaniaethau delfrydaidd, ni ellir gwahaniaethu rhwng realiti a chanfyddiad neu ddirnadaeth ddynol. Yn nhermau athroniaeth y meddwl, felly, y byd meddyliol ydy'r unig wirionedd, a ni ellir ystyried mater ffisegol yn ddirweddol. Bu'r gwrthwynebiad delfrydaidd i ddeuoliaeth Gartesaidd ar ei anterth hyd at ddiwedd y 19g.

Materoliaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

O ganlyniad i dwf y gwyddorau ffisegol a'r llu o ddarganfyddiadau a datblygiadau ym meysydd ffiseg, seryddiaeth, cemeg, a'r gwyddorau daear ers dechrau'r 20g, trodd nifer o athronwyr yn erbyn delfrydiaeth.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Antonio R. Damasio (2006). L'Erreur de Descartes (yn Ffrangeg). Paris: Éditions Odile Jacob. ISBN 2-7381-1713-9.
  2. Kim, J., "Problems in the Philosophy of Mind". Oxford Companion to Philosophy. Ted Honderich (ed.) Oxford:Oxford University Press. 1995. (Saesneg)

Darllen pellach[golygu | golygu cod y dudalen]

  • David Rosenthal (gol.), The Nature of Mind (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1991).