Robert Hooke

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Robert Hooke

Portread modern o Robert Hooke (gan Rita Greer 2004), yn seiliedig ar ddisgrifiad gan John Aubrey a Richard Waller (m. 1715).
Ganwyd 18 Gorffennaf 1635 – 3 Mawrth 1703
Freshwater, Ynys Wyth, Lloegr
Bu farw 3 Mawrth 1703 (oed67)
Llundain
Cenedligrwydd Sais
Meysydd Ffiseg a Chemeg
Sefydliadau Prifysgol Rhydychen
Alma mater Eglwys Crist, Rhydychen
Academic advisors Robert Boyle
Enwog am Deddf Hooke
Microsgopeg
y defnydd o'r gair 'cell'
Dylanwadau Richard Busby

Gwyddonydd, athronydd a dyfeisiwr o Sais oedd Robert Hooke (28 Gorffennaf [O.S. 18 Gorffennaf] 1635 – 3 Mawrth 1703).

Efallai y gellir rhannu ei fywyd yn dair rhanː y gwyddonydd ymchwilgar, diarian; y gweithiwr caled, ariannog ac yn drydydd y cyfnod o salwch mawr a chenfigen cydweithwyr. Efallai mai'r rheswm pam na fu tan heddiw yn llygad y cyhoedd, rhyw lawer, yw'r trydydd, er i Alan Chapman, yn ddiweddar ei alw'n "Leonardo Lloegr".

Gwnaeth lawer o arbrofion ar gyfer y Gymdeithas Frenhinol yn ogystal a bod yn aelod o Gyngor y Gymdeithas. Roedd hefyd yn Athro ac yn 'Brif Syrferwr Llundain', yn dilyn tân mawr 1666 - gan fynd ati i wneud dros hanner yr arolygon ar ei liwt ei hun. Roedd hefyd yn bensaer pwysig iawn ar y pryd; bellach fodd bynnag, dim ond llond dwrn o adeiladau o'i eiddo sydd bellach yn sefyll. Creodd nifer o gyfyngiadau cynllunio ar gyfer Llundain, ac mae eu dylanwad yn parhau hyd heddiw yn y byd cynllunio.[1]

Yn ei lyfr Early Science in Oxford mae Robert Gunther yn neilltuo 5 rhan allan o gyfanswm o 14 i Hooke.

Braslun o'i waith[golygu | golygu cod y dudalen]

Astudiodd Hooke yng Ngholeg Wadham ble roedd yn aelod o grŵp o Frenhinwyr, gyda dyn o'r enw John Wilkins yn eu harwain. Gweithiodd Hooke fel cynorthwyydd i'r meddyg Thomas Willis ac hefyd i'r Gwyddel Robert Boyle, un o'r cemegwyr cyntaf. I Boyle, adeiladodd sawl pwmp gwactod ('vacuum pump') a ddefnyddiwyd ganddo yn ei arbrofion. Creodd hefyd rai o'r telesgopau Gregoraidd cyntaf, ac arsylwyd ar gylchdro'r planedau Mawrth ac Iau. Ysbrydolodd eraill i ddefnyddio meicrosgopau pan gyhoeddodd lyfr am y pwncː Micrographia. Rhagflaenodd Darwin gydag ambell gysyniad ym maes esblygiad, wedi iddo ddefnyddio offer tebyg i'r meicrosgop i edych yn fanwl ar ffosiliau[2][3].

Ymchwiliodd y ffenomenon o blygiant a thraethodd am theori tonnau golau. Ef oedd y cyntaf hefyd i esbonio fod mater yn chwyddo pan gaiff ei gynhesu a bod aer yn cael ei wneud allan o ronynnau mân gyda chryn bellter rhyngddynt.

Roedd y gwaith a wnaeth fel syrfewr a mapiwr hefyd o flaen ei amser ac yn gynsail i lawer o'r gwaith a ddefnyddir heddiw gyda'r map-ffurf-cynllun. Gwrthodwyd ei gynnig o osod y Llundain newydd (wedi tân 1666) ar ffurf grid, a derbyniwyd cynllun mwy confensiynol a oedd yn dilyn lleoliad yr hen strydoedd.

Bron iddo brofi fod disgyrchiant yn dilyn 'deddf sgwâr gwrthdro' (inverse square law) a rhagwelodd fod perthynas fel hyn hefyd yn rheoli symudiad y planedau, syniadau a ddatblygwyd ymhellach gan Syr Isaac Newton.[4] Gwnaeth lawer o'r arbrofion hyn fel 'ceidwad arbrofion' y Gymdeithas Frenhinol, swydd a gafodd yn 1662, ac hefyd fel cyfaill Robert Boyle.


Cyfeiriadaɯ[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Chapman, Alan (1996). "England's Leonardo: Robert Hooke (1635–1703) and the art of experiment in Restoration England". Proceedings of the Royal Institution of Great Britain 67: 239–275. http://home.clara.net/rod.beavon/leonardo.htm.
  2. Drake, Ellen Tan (2006). "Hooke's Ideas of the Terraqueous Globe and a Theory of Evolution". In Michael Cooper and Michael Hunter. Robert Hooke: Tercentennial Studies. Burlington, Vermont: Ashgate. tud. 135–149. ISBN 978-0-7546-5365-3. http://books.google.com/?id=P0-XfTTcwwQC&pg=PA135.
  3. Drake, Ellen Tan (1996). Restless Genius: Robert Hooke and His Earthly Thoughts. Oxford University Press. ISBN 978-0-19-506695-1.
  4. Encyclopaedia Britannica, 15fed Rhifyn, cyfr.6 tud. 44


Baner LloegrEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.