Thomas Gray

Oddi ar Wicipedia
Thomas Gray
Portread o Thomas Gray (tua 1747) gan John Giles Eccardt (1847–8)
Ganwyd26 Rhagfyr 1716 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw30 Gorffennaf 1771 Edit this on Wikidata
Caergrawnt Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Prydain Fawr Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethbardd, beirniad llenyddol, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Swyddathro cadeiriol Edit this on Wikidata
Cyflogwr

Bardd Saesneg oedd Thomas Gray (26 Rhagfyr 171630 Gorffennaf 1771). Fe'i ganwyd yn Llundain. Roedd yn gyfaill i Horace Walpole.

Cyfieithwyd ac addaswyd ei waith mwyaf adnabyddus, Elegy Written in a Country Churchyard, i'r Gymraeg sawl gwaith yn y 18fed a'r 19g.

Dyma gyfieithiad John Morris-Jones o linellau agoriadol y gerdd:[1]

The curfew tolls the knell of parting day,
The lowing herd wind slowly o'er the lea, ....
Cân y ddyhuddgloch gnul i dranc y dydd,
Try'r araf yrr dan frefu dros y ddôl; ....

Gwaith adnabyddus arall gan Gray yw ei gerdd The Bard, sy'n seiliedig ar yr hanesyn am "gyflafan y beirdd". Cafodd Gray yr hanes yn y gyfrol History of England (1747–55) gan y hanesydd o Sais Thomas Carte. Daeth hanes y 'gyflafan' yn enwog diolch i gerdd Gray, sy'n portreadu'r bardd olaf yn melltithio Edward I o Loegr ac yn proffwydo dinistr ar ei ddisgynyddion. Cafodd Gray yr hanesyn o lyfr Carte yn 1755 ac ysgrifennwyd y gerdd ganddo yn 1757 ar ôl clywed Edward Jones (Bardd y Brenin) yn canu alawon Cymreig ar ei delyn.[2]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Elegy Written in a Country Churchyard (1751)
  • The Bard (1757)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Morris-Jones, Syr John (1934). "Marwnad Grey" . Salm i Famon a Marwnad Grey. Wrecsam: Hughes a'i fab. tt. 25–30.
  2. Prys Morgan, The Eighteenth Century Renaissance (Abertawe, 1981), tud. 120.
Baner LloegrEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.