The Bard (cerdd Thomas Gray)

Oddi ar Wicipedia
The Bard
Tudalen deitl The Bard gyda llun dyfrlliw (tua 1787) gan William Blake (1757–1827), un o gyfres o 14 dalen gan Blake yn darlunio cerdd Gray
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurThomas Gray Edit this on Wikidata
IaithSaesneg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi8 Awst 1757 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1757 Edit this on Wikidata
GenrePindaric ode Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cerdd Saesneg gan y bardd o Sais Thomas Gray (1716–1771) yw The Bard: A Pindaric Ode. Cyfansoddodd Gray y gerdd yn ystod y blynyddoedd 1754–57 a'i chyhoeddi gyntaf ynghyd â'r cerdd The Progress of Poesy yn y llyfryn Odes by Mr. Gray (Llundain, 1757). Cafodd The Bard ddylanwad pwysig ar feirdd ac arlunwyr y Mudiad Rhamantaidd ac anogodd ddiddordeb cyffredinol mewn hynafiaeth Geltaidd.

Y Cerdd[golygu | golygu cod]

Gosododd Gray y nodyn canlynol ar y dudalen cyn y gerdd:

The following Ode is founded on a Tradition current in Wales, that EDWARD THE FIRST, when he compleated the conquest of that country, ordered all the Bards, that fell into his hands, to be put to death.
Mae'r Awdl canlynol wedi'i seilio ar Traddodiad sy'n gyffredin yng Nghymru, a orchmynnodd EDWARD Y CYNTAF, pan gwblhaodd goncwest y wlad honno, i'r holl Feirdd, a syrthiodd i'w ddwylo, gael eu dienyddio.

Ymddangosodd y stori amheus fod Edward I wedi gorchymyn i feirdd o Gymru gael eu dienyddio yn gyntaf yn History of the Gwydir Family gan Syr John Wynn (1553–1627).

Mae’r cerdd o 144 llinell sy'n dilyn yn adrodd hanes bardd o Gymro yn melltithio’r brenin Edward I ar ôl ei oresgyniad o Gymru ac yn proffwydo’n fanwl diwedd Llinach y Plantageniaid. Mae'n dechrau:

'Ruin seize thee, ruthless king!
'Confusion on thy banners wait,
'Though fanned by Conquest's crimson wing
'They mock the air with idle state.'

Mae'n gorffen yn felodramatig gyda'r bardd yn hyrddio'i hun i'w farwolaeth o ben mynydd:

He spoke, and headlong from the mountain's height
Deep in the roaring tide he plunged to endless night.

Mae'r cerdd yn awdl yn null arwrol y bardd Groeg hynafol Pindar. Math o gerdd delynegol oedd yr awdl Roegaidd, a oedd yn cyfleu emosiynau dyrchafedig ac ysbrydoledig mewn iaith a oedd yn ddychmygus, yn urddasol ac yn ddiffuant. Yn ei gerdd mae Gray yn defnyddio strwythur teiran yr awdl Roegaidd – strophe, antistrophe ac epode.

Dylanwad y cerdd[golygu | golygu cod]

Canmolwyd y cerdd gan lawer o lenorion y dydd, er nad oedd Dr Johnson yn ei hoffi. Cafodd ddylanwad pwysig ar y dychymyg Rhamantaidd, a hyd yn oed, fel y noda Dafydd Johnston, ar ddiwylliant Cymru ei hun.[1]

Annogodd y gerdd awydd am themâu Celtaidd mewn celf. Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, yn ystod y 1760au, cyhoeddwyd James Macpherson (1736–1796) farddoniaeth yr honnodd ei fod yn waith yr awdur Gaeleg hynafol "Ossian". Cafodd y ffugiadau hyn lwyddiant ysgubol ledled Ewrop.

Tua 1787 creodd y bardd William Blake gyfres o 14 llun dyfrlliw yn darlunio'r gerdd.

Daeth delwedd y bardd ar ei gopa mynydd yn bwnc i nifer o beintwyr.[2] Gweler y paentiadau gan Thomas Jones a John Martin isod er enghraifft.

Gosodwyd cerdd Gray i gerddoriaeth gan Charles Villiers Stanford (1852–1924) ym 1892 (The Bard: A Pindaric Ode by Thomas Gray, ar gyfer bas, corws a cherddorfa, Op.50).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Gray's 'The Bard' was an early instance of Gothic medievalism which influenced the way the Welsh read their own literary history, as well as the way painters depicted Welsh landscapes." Dafydd Johnston, "Radical adaptation: translations of medieval Welsh poetry", yn "Footsteps of Liberty and Revolt": Essays on Wales and the French Revolution, gol. Mary-Ann Constantine a Dafydd Johnston (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2013), t.180
  2. F. I. McCarthy, "The Bard of Thomas Gray: Its Composition and Its Use by Painters", Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru 14:1 (Haf 1965), tt.105–13

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Dolen allanol[golygu | golygu cod]