Masc

Oddi ar Wicipedia

Math o adloniant llysaidd yn cynnwys cerddoriaeth a dawns a berfformid mewn gwisgoedd arbennig gyda golygfeydd ysblennydd oedd y masc[1] neu'r masg[2] a fu'n boblogaidd ar sawl ffurf ar draws Ewrop trwy gydol yr Oesoedd Canol Diweddar, y Dadeni Dysg, a'r cyfnod modern cynnar. Byddai'r masc nodweddiadol yn galw ar westeion mewn cuddwisg, yn aml mygydau, i gynnig anrhegion i'r gwesteiwr cyn iddynt ddawnsio gyda'i gilydd. Weithiau byddai cwmni o actorion a chantorion yn cyflwyno drama neu sioe o ryw fath, yn portreadu cymeriadau chwedlonol er enghraifft, ac yna'n dawnsio ac yn sgwrsio gyda'r gwesteion. Gallai gynnwys elfennau'r gorymdaith, cludwyr ffaglau yn tywys y gwesteion, cyflwynydd yn cyhoeddi enwau'r gwesteion, neu themâu mytholegol ac alegorïaidd.

Mae'n debyg i'r masc darddu o ddefodau crefyddol a seremonïau gwerin cyntefig megis mudchwarae a'r pasiant yn ystod yr Oesoedd Canol. Datblygodd masciau yn sbectaclau i lysoedd y brenhinoedd a'r pendefigion ar draws Ewrop. Un ffurf goeth ar y masc oedd yr intermedio neu intermezzo Eidalaidd yn oes y Dadeni, a flodeuai yn enwedig dan nawdd Lorenzo de' Medici, Arglwydd Gweriniaeth Fflorens yn niwedd y 15g. Bu'r perfformiadau hyn yn llawn canu a dawnsio, golygfeydd ysblennydd, a pheirianwaith llwyfan, ac yn cynnwys dawns fasgiau i'r gwesteion gymysgu â'r actorion. Ffurf arall a ddatblygai o'r intermedio, heb yr elfen theatraidd draethiadol, oedd y trionfo, gŵyl yn yr awyr agored i ddynwared gorymdeithiau gorfoleddus y Rhufeiniaid hynafol. Byddai'r trionfo yn ei tro yn ysbrydoli'r ballet de cour a'r masquerade yn Ffrainc.[3]

Lloegr[golygu | golygu cod]

Dygwyd y masc i Deyrnas Lloegr yn ystod cyfnod y Tuduriaid, ac yno fe'i datblygwyd yn sioe ysblennydd i'w pherfformio o flaen y Brenin Harri VIII, gan gynnwys gwisgoedd crand, set fawreddog gyda pheiriannau cymhleth i symud y gwahanol olygfeydd ar draws y llwyfan, ac ymsonau ac ymgomiau alegorïaidd ar gân. Yn oes Elisabeth, bu'r masc yn rhoi cyfle i bendefigion a boneddigion dalu teyrnged i'r Frenhines Elisabeth I, yn ei phalasau yn Llundain yn ogystal ag ar draws y deyrnas ar ei chylchdeithiau haf.

Darlun gan Inigo Jones ar gyfer marchog mewn masc.

Yn oesoedd Iago I a Siarl I, yn nechrau'r 17g, perfformiwyd masciau fel arfer yn y llys brenhinol. Bu'r masc ar ei anterth dan ddylanwad Ben Jonson, un o'r dramodwyr a beirdd gwychaf yn llên Lloegr, a gydweithiai â'r pensaer a dylunydd Inigo Jones i gynhyrchu sawl masc yn y cyfnod o 1605 i 1634. Dyfeisiodd Jonson y gwrthfasc, sioe grotésg a berfformiwyd cyn y prif fasc er mwyn cyferbynnu ag elfennau cain a llenyddol y traddodiad. Yn ddiweddarach, trodd y masc yn fath o opera, a'r gwrthfasc yn ffars neu bantomeim. Er i sawl llenor a chyfansoddwr Seisnig weithio ar fasciau yn ail hanner yr 17g, nid oeddynt cystal â chynhyrchiadau'r Stiwartiaid cynnar.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Geiriadur yr Academi, "masque".
  2.  masg. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 17 Medi 2021.
  3. (Saesneg) Masque. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 17 Medi 2021.