Gorymdaith
Y weithred o gerdded yn drefnus i fan penodedig yw gorymdaith.[1]
Adloniant[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae gorymdeithio yn agwedd bwysig o draddodiadau diwylliannol a hamddenol megis y parêd a'r pasiant.
Crefydd[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae nifer o ddefodau Cristnogol yn cynnwys gorymdaith. Roeddent yn boblogaidd iawn yn yr Oesoedd Canol.[2][3] Mae rhai yn parhau hyd heddiw, er enghraifft yr orymdaith angladdol, neu 'gynhebrwng'.
Gwleidyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Un o'r ffyrdd mwyaf poblogaidd o brotestio neu i dynnu sylw at achos yw i orymdeithio fel rhan o wrthdystiad. Yn aml bydd gwrthdystwyr yn dal arwyddion a baneri sy'n dangos arwyddeiriau neu ddatganiadau tebyg wrth iddynt cerdded.
Y lluoedd arfog[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae gorymdeithio yn weithgaredd elfennol ym mywyd y milwr ac yn rhan o hyfforddiant sylfaenol y lluoedd arfog ar draws y byd. Yn aml mae milwyr yn gorymdeithio i gerddoriaeth yr ymdeithgan megis 'Rhyfelgyrch Gwŷr Harlech'.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ gorymdaith. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 6 Medi 2014.
- ↑ (Saesneg) procession (religion). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 6 Medi 2014.
- ↑ (Saesneg) "Processions", Catholic Encyclopedia.