Parêd
Jump to navigation
Jump to search
Sioe gyhoeddus yw parêd a'i brif nodwedd yw gorymdaith drefnus neu seremonïol.[1][2] Ceir rhywfaint o rodres i barêd o ran gwisg, canu a cherddoriaeth, baneri, balwnau, anifeiliaid, a cherbydau. Yn aml digwyddiad blynyddol yw'r parêd sy'n dathlu gŵyl, er enghraifft dyddiau'r seintiau, gwyliau crefyddol, dyddiadau annibyniaeth, neu ddathliadau "balchder" (er enghraifft balchder hoyw). Ceir "Parêd y Cenhedloedd" mewn seremonïau agoriadol nifer o gystadlaethau chwaraeon rhyngwladol, gan gynnwys y Gemau Olympaidd a Gemau'r Gymanwlad.
Gall y gair parêd hefyd gyfeirio at gynulliad o filwyr i'w harolygu.[1]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ 1.0 1.1 parêd. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 31 Awst 2014.
- ↑ (Saesneg) parade. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 31 Awst 2014.