Siop adrannol

Oddi ar Wicipedia
Siop adrannol House of Fraser ar Heol Eglwys Fair yng Nghaerdydd.

Adeilad adwerthol sydd yn gwerthu nifer fawr o wahanol nwyddau traul yw siop adrannol. Gan amlaf mae'r rhain yn cynnwys dillad a chyfwisg, celfi tŷ bychain, offer a pheiriannau'r gegin, offer ac addurniadau'r ardd, a bwyd. Rhennir y nwyddau sydd ar werth yn adrannau dan oruchwyliad rheolwyr a phrynwyr arbennig. Rhennir gweinyddiaeth y siop adrannol hefyd o ran marchnata, hysbysebu, gwasanaethu cwsmeriaid, cyfrifyddu, a rheolaeth y gyllideb.[1]

Gellir dosbarthu siopau adrannol yn ôl y nwyddau maent yn eu gwerthu a'r prisoedd a godir arnynt. Y prif fathau o siopau adrannol ydy disgownt, marsiandïaeth gyffredinol, ffasiwn neu uwch ffasiwn, ac arbenigedd. Mae nifer ohonynt yn cynnig gwasanaethau ychwanegol i'r cwsmer, gan gynnwys lapio anrhegion, altro a phersonoli nwyddau, danfoniadau, a siopa personol.[1]

Hanes[golygu | golygu cod]

Y tu mewn i Le Bon Marché ym 1900.

Datblygodd siopau adrannol yn y 19g o ganlyniad i newidiadau cymdeithasol ac economaidd, gan gynnwys twf y dinasoedd, cludiant cyhoeddus, a thrydan, a chychwyn y diwydiant nwyddau traul modern. Y siop adrannol gyntaf yn y byd oedd Le Bon Marché ym Mharis, a sefydlwyd ar ffurf siop fechan ym 1838. Fe'i ailwampiwyd gan Aristide Boucicaut (1810–77), a benodwyd yn bartner ym 1852, drwy newid y model busnes a'i symud i adeilad mawr, crand ym 1869. Cyflwynodd Boucicat brisiau gosod ar ei nwyddau, gan roi'r gorau i'r hen arfer o daro bargen rhwng y cwsmer a'r dyn siop, a chaniataodd i'r cwsmer ddychwelyd ei bryniad am ad-daliad neu i'w gyfnewid am eitem arall. Yn safle newydd Le Bon Marché yn rue de Sèvres, a ehangwyd ym 1872 gan gwmni Gustave Eiffel, darparwyd ystafelloedd disgwyl a darllenfeydd i wrywod, ac adloniant i blant, tra'r oeddynt yn aros am y gwragedd i orffen eu siopa. Bu Boucicat hefyd yn arloesi technegau marchnata, drwy hysbysebu mewn papurau newydd ac argraffu catalogau a ddanfonwyd i gwsmeriaid drwy'r post.

Sefydlwyd y siop adrannol gyntaf yn Unol Daleithiau America ym 1875 gan John Wanamaker (1838–1922). Adeiladwyd sawl siop arbenigol wahanol dan yr un to, mewn hen storfa nwyddau rheilffyrdd yn Philadelphia. Siop Wanamaker oedd y cyntaf i ddefnyddio ticedi prisiau wedi eu clymu wrth yr eitemau ar werth. Defnyddiodd asiantaethau hysbysebu i hyrwyddo ei siopau cadwyn ar draws yr Unol Daleithiau.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Department store. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 9 Mai 2020.