Gustave Eiffel

Oddi ar Wicipedia
Gustave Eiffel
GanwydAlexandre Gustave Bonickhausen dit Eiffel Edit this on Wikidata
15 Rhagfyr 1832 Edit this on Wikidata
Dijon Edit this on Wikidata
Bu farw27 Rhagfyr 1923 Edit this on Wikidata
Paris Edit this on Wikidata
Man preswylrue Rabelais Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
Alma mater
  • École Centrale Paris
  • Collège Sainte-Barbe Edit this on Wikidata
Galwedigaethpeiriannydd sifil, pensaer, peiriannydd, peiriannydd awyrennau Edit this on Wikidata
Swyddarlywydd Edit this on Wikidata
Gwobr/auChevalier de la Légion d'Honneur, Officier de la Légion d'honneur, Langley Gold Medal, Fourneyron prize Edit this on Wikidata
llofnod

Peiriannydd sifil a phensaer Ffrengig oedd Alexandre-Gustave Eiffel (15 Rhagfyr 183228 Rhagfyr 1923) sydd yn nodedig am ddylunio Tŵr Eiffel a saif ym Mharis.

Ganed yn Dijon, Teyrnas Ffrainc, a derbyniodd ei radd o'r École Centrale des Arts et Manufactures ym 1855. Bu'n arbenigo mewn strwythurau metal, yn enwedig pontydd. Dan ei arweiniad, codwyd pont haearn yn Bordeaux ym 1858, a fe ddyluniodd y Galerie des machines, pafiliwn haearn, dur a gwydr, ar gyfer Arddangosfa Paris ym 1867. Dyluniodd hefyd gromen symudol Arsyllfa Nice a fframwaith Cerflun Rhyddid.

Dyluniodd Eiffel y tŵr haearn gyr sy'n dwyn ei enw ar gyfer yr Exposition Universelle, ffair y byd ym Mharis ym 1889. O 1889 i 1930, Tŵr Eiffel oedd y strwythur wneuthuredig uchaf yn y byd.

Adeiladodd Eiffel labordy ar gyfer arbrofion erodynameg ar gyrion Paris a gweithiodd yno yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Rhoes y labordy i lywodraeth Ffrainc ym 1921. Bu farw ym Mharis yn 91 oed.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Gustave Eiffel. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 18 Mehefin 2020.