Cerflun Rhyddid
Cerflun yn ninas Efrog Newydd yn yr Unol Daleithiau yw Rhyddid yn Goleuo'r Byd (Saesneg: Liberty Enlightening the World, Ffrangeg: La liberté éclairant le monde), a adnabyddir fel rheol fel Cerflun Rhyddid (Statue of Liberty, Statue de la Liberté). Cyflwynwyd y cerflun i'r Unol Daleithiau gan bobl Ffrainc yn 1886. Saif ar Liberty Island ger harbwr Efrog Newydd. Cynllunwyd y cerflun gan Frédéric Auguste Bartholdi, tra cynllunwyd y tu mewn iddo gan Alexandre Gustave Eiffel (cynllunydd Tŵr Eiffel).
Adeiladwyd y cerfun o gopr. Mae'n dangos merch yn dal fflam rhyddid. Cyhoeddwyd y cerflun yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO yn 1984.
Ar bedestal y cerflun mae'r gerdd The New Colossus gan Emma Lazarus wedi ei hysgrifennu ar dabled efydd. Mae'r llinellau olaf yn enwog:
- Give me your tired, your poor,
- Your huddled masses yearning to breathe free,
- The wretched refuse of your teeming shore;
- Send these, the homeless, tempest-tost to me,
- I lift my lamp beside the golden door!