Cerdded

Oddi ar Wicipedia
Cerdded
Mathterrestrial locomotion, gweithgaredd hamdden, Ymarfer corff, locomotor skill, gweithrediad dynol Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Dyn yn cerdded adref.

Gellir diffinio cerdded fel 'symud ar ddau droed' ond yn gymharol araf, heb redeg. Dywedir yn aml mai cerdded yw'r dull cynharaf a symlaf o deithio gan fodau dynol. Cyn dyfodiad y rheilffordd a rhwydweithiau cludiant cerdded oedd y dull cyffredin o symud o le i le.

Mae rhai anifeiliaid yn medru cerdded hefyd, fel y tsimpansi er enghraifft, ond dim ond pobl sy'n medru cerdded yn dalsyth ar ddau droed.

Erbyn hyn mae cerdded - sef 'mynd am dro' - yn ffordd boblogaidd o dreulio oriau hamdden. Mewn rhai gwledydd ceir llwybrau cyhoeddus a llwybrau pellder hir arbennig fel Llwybr Glyndŵr yng Nghymru.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am gludiant. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Chwiliwch am Cerdded
yn Wiciadur.