Canlyniadaeth

Oddi ar Wicipedia
Canlyniadaeth
Mathethical theory Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebDyletswyddeg Edit this on Wikidata
Prif bwncmoeseg Edit this on Wikidata

Dosbarth o ddamcaniaethau moesegol normadol yw canlyniadaeth[1] sydd yn dal taw canlyniadau sydd yn pennu gwerthoedd moesol. Defnyddiolaeth yw'r ddamcaniaeth ganlyniadol amlycaf. Gwelir ei gwreiddiau yn syniadaeth yr Epiciwriaid a gwaith Francis Hutcheson a Joseph Priestley. Gellir ei leoli yn rhan o'r traddodiad pleseryddol (neu hedonaidd). Jeremy Bentham a John Stuart Mill yw'r ddau Sais a gydnabyddir yn arloeswyr defnyddiolaeth, sy'n hyrwyddo'r lles cyffredin. Yn yr 20g datblygodd G. E. Moore ffurf ar ganlyniadaeth o'r enw "defnyddiolaeth ddelfrydol", sydd yn cydnabod harddwch a chyfeillgarwch ar y cyd â phleser.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Canlyniadaeth", Y Termiadur Addysg. Adalwyd ar 31 Mawrth 2018.
Eginyn erthygl sydd uchod am athroniaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.