Defnyddiolaeth

Oddi ar Wicipedia

Damcaniaeth a dysgeidiaeth foesegol yw defnyddiolaeth,[1] llesyddiaeth,[1][2] buddioleg[3] neu iwtilitariaeth[1][4] sy'n haeru taw hapusrwydd pennaf y mwyafrif a ddylai fod yn egwyddor sylfaenol ymddygiad. Mae'n uniaethu daioni â defnyddioldeb ac yn dal taw'r unig weithredoedd cywir yw'r rhai sy'n dwyn y bodlonrwydd neu'r llawenydd mwyaf i'r nifer fwyaf o bobl.

Agwedd ddylanwadol at foeseg normadol yw defnyddiolaeth sy'n ffurf ar ganlyniadaeth; hynny yw, canlyniadau'r weithred sy'n pennu ei foesoldeb.[5] Mae'n wahanol i myfïaeth gan ei fod yn ystyried buddiannau eraill yn ogystal â buddiannau'r hunan, ac yn groes i ddyletswyddeg sy'n barnu moesoldeb heb ystyried canlyniadau. Yn ôl y defnyddiolwr, mae'n bosib i wneud da ar gymhelliad drwg, er nad yw hyn yn rheswm dros geisio gwneud drwg.[6]

Dirnedir safbwyntiau rhag-iwtilitaraidd ers athroniaeth yr Henfyd, megis moeseg Epiciwraidd, ond yn y 19eg ganrif daeth mynegiant llawn yr athrawiaeth a'i diffiniad am y tro cyntaf. Jeremy Bentham a John Stuart Mill a osododd sail i ddefnyddiolaeth glasurol gyda'u pwyslais ar eithafu'r hyn sy'n dda ar gyfer y nifer fwyaf o bobl.[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 Geiriadur yr Academi, [utilitarianism].
  2.  llesyddiaeth. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 4 Mawrth 2016.
  3.  buddioleg. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 4 Mawrth 2016.
  4.  iwtilitariaeth. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 4 Mawrth 2016.
  5. 5.0 5.1 (Saesneg) The History of Utilitarianism. Stanford Encyclopedia of Philosophy. Prifysgol Stanford. Adalwyd ar 4 Mawrth 2016.
  6. (Saesneg) utilitarianism. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 4 Mawrth 2016.

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • Matti Häyry, Liberal Utilitarianism and Applied Ethics (Llundain: Routledge, 1994).