Nofel epistolaidd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Nofel ar ddull llythyr neu gyfres o lythyrau yw Nofel epistolaidd.

Gall nofel epistolaidd fod ar ffurf llythyraeth gan unigolyn at ddarllenydd dychmygol neu fel cyfres o lythyrau rhwng dau neu ragor o gymeriadau ffuglen. Mae'r nofel fer Ffarwel Weledig (1946) gan Cynan yn enghraifft dda o'r ffurf flaenorol yn y Gymraeg.

Roedd y nofel epistolaidd yn arbennig o boblogaidd gan lenorion y 18fed ganrif yn Ewrop. Mae enghreifftiau adnabyddus yn cynnwys Les liaisons dangereuses (1782) gan Choderlos de Laclos yn Ffrangeg sydd ar ffurf cyfres o lythyrau rhwng y gwrth-arwr Valmont a'r Marquise de Merteuil a chymeriadau llai. Hefyd Julie ou la Nouvelle Héloïse gan Jean-Jacques Rousseau.

Book template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.