Frankenstein, or The Modern Prometheus

Oddi ar Wicipedia
Frankenstein, or The Modern Prometheus
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurMary Shelley Edit this on Wikidata
GwladTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
IaithSaesneg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1 Ionawr 1818, 1818 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1810 Edit this on Wikidata
GenreNofel epistolaidd, body horror literature, ffuglen Gothig, gwyddonias, ffantasi Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganHistory of a Six Weeks' Tour Edit this on Wikidata
Olynwyd ganValperga Edit this on Wikidata
CymeriadauVictor Frankenstein, Anghenfil Frankenstein, Elizabeth Lavenza, Doctor Waldman Edit this on Wikidata
Lleoliad cyhoeddiLlundain Edit this on Wikidata
Yn cynnwysMary Shelley Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus, parth cyhoeddus Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Mae'r erthygl hon yn sôn am y nofel gan Mary Shelley. Am ddefnyddiau eraill o'r enw Frankenstein, gweler Frankenstein (gwahaniaethu).

Nofel epistolaidd o 1818 gan yr awdur o Saesnes Mary Shelley yw Frankenstein; or, The Modern Prometheus. Mae'r llyfr yn adrodd hanes Victor Frankenstein, gwyddonydd ifanc sy'n creu creadur lled-dynnol. Dechreuodd Shelley ysgrifennu’r stori pan oedd yn 18 oed, a chyhoeddwyd yr argraffiad cyntaf yn ddienw yn Llundain ar 1 Ionawr 1818, pan oedd yn 20 oed. Ymddangosodd ei henw yn yr ail argraffiad, a gyhoeddwyd ym Mharis yn 1821.

Mae Victor Frankenstein yn wyddonydd sy'n ceisio creu bywyd ei hun. Mae teitl llawn y nofel yn cymharu Victor â'r cymeriad mytholegol Promethëws, a luniodd fodau allan o glai a rhoi tân iddynt. Mae Victor yn pwytho ynghyd rannau o gyrff marw troseddwyr a ddienyddiwyd wrth y crocbren. Daw ei greadigaeth yn fyw yn ystod storm o fellt a tharanau. Mae Frankenstein yn cael ei ddychryn gan ei anghenfil newydd, ac mae'n ffoi. Mae'r anghenfil yn treulio blynyddoedd yn chwilio am le yn y byd ond mae pobl yn ei ofni. Ar ôl blynyddoedd yn unig, mae'n dychwelyd i Frankenstein i ofyn iddo wneud creadur arall i fod yn wraig iddo. Mae Frankenstein yn erlid yr anghenfil i'r Arctig, ac yn marw wrth erlid y creadur. Mae'r anghenfil yn galaru dros gorff Victor cyn diflannu i'r niwl.

Mae'r stori wedi parhau i swyno'r cyhoedd ac artistiaid eraill, ac mae Victor Frankenstein a'i anghenfil wedi'u darlunio mewn llawer o weithiau eraill, yn enwedig ffilmiau.

Mewn diwylliant poblogaidd, mae'r enw "Frankenstein" wedi'i ddefnyddio'n aml, ar gam, i gyfeirio at yr anghenfil, yn hytrach nag at Victor Frankenstein, ei greawdwr.

Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.