Julie, ou la Nouvelle Héloïse
Julie, ou la Nouvelle Héloïse | |
---|---|
Arddull | Nofel epistolaidd, ffuglen, naratif |
Nofel Ffrangeg ar ffurf cyfres o lythyron rhwng cymeriadau, neu nofel epistolaidd, gan Jean-Jacques Rousseau ydyw Julie, ou la Nouvelle Héloïse. Cyhoeddwyd yr argraffiad cyntaf yn Amsterdam yn 1761 dan y teitl Lettres de deux amans, habitans d'une petite ville au pied des Alpes. Er i’r nofel wefreiddio darllenwyr Ewrop pan ymddangosodd yn 1761, gan newid bywydau a ffasiynau, a’n hagewdd tuag at natur, am byth, ychydig iawn o ddarllen sydd arni heddiw, er y gwelir crybwll ei theitl yn fynych. Neges Rousseau yw bod trigolion y wlad yn gwbl wahanol i bobl y dref. Dywed yn blaen yn ei ragymadrodd "ffowch o'r trefi".
Cynllun
[golygu | golygu cod]Cnewyllyn y plot yw bod Julie, fel Eloisa gynt, yn cwympo mewn cariad â’i thiwtor Saint-Preux, ond mae tad Julie yn gwrthod iddynt briodi oherwydd nad yw Saint-Preux yn uchelwr. Felly mae Julie yn priodi Wolmar, ac yn byw bywyd rhinweddol a duwiol gyda’i gwr ar ystad yn Clarens, yn magu ei phlant, yn ffurfio syniadau am ‘natur’ ac addysg, yn gorychwilio bywyd a gwaith yr ystad gyda’i gwr, ac yn creu gardd arbennig. Cawn wybod am hyn oll trwy’r disgrifiadau o’r ystad, o’r ardd, ac o fywyd Julie, yn llythyron Saint-Preux, sydd wedi dychwelyd i’r ardal wedi sawl blwyddyn o deithios, ac yn ymweld â Clarens. Mewn un llythyr (Rhan 4 llythyr 10) ceir disgrifiad manwl o sut mae’r ystad yn Clarens yn gweithio: manylion y trefniadau, yn amaethyddol, yn economaidd. Pwysleisir yr arloesi, h.y. arbrofi amaethyddol a hefyd y ffyrdd o drin a gofalu ar ôl staff. E.e. yn Clarens cynigir gwobr wythnosol i’r gweithwyr am waith caled. Maent yn derbyn tâl arferol, ond hefyd ychwaneg o arian am waith da, ynghyd â chynyddiad blynyddol [increment]. Yn Clarens mae’r meistri yn arwain trwy esiampl. Yn y llythyr nesaf ceir disgrifiad enwog o ardd Julie, ei ‘Elysée’, ei hoff le. Dysgwn mai Julie yn unig fu’n gyfrifol am y gwaith i gyd (gydag ychydig o arddwyr), er bod y canlyniad yn edrych yn gwbl naturiol, yn ôl honiad Saint-Preux. Ateb Julie yw ‘Natur wnaeth pob peth, ond o dan fy ngorychwiliaeth’. Â Julie ymlaen i esbonio iddi ddewis planhigion brodorol, ac iddi daflu planhigion dringo fel garlant o goeden i goeden. Er mwyn rhoi’r argraff bod dwr yn ffrydio’n naturiol drwy’r ardd, roedd hi wedi dargyweirio’r dwr o’r ffynon ffurfiol yng ngardd ei thad. A thrwy hyn mae’n tanseilio ffurfioldeb gardd ei thad, a thraddodiad garddio’r Ffrancwyr. Mae’r coed yn ei gardd yn llawn o adar, oherwydd plennir cnydau yn unswydd er mwyn denu’r adar sy’n llenwi’r ardd a’u trydar, ac mae Julie yn darparu deunydd adeiladu nythod er mwyn eu cadw yno. Meddai Saint-Preux am y lle: ‘Nid yw ôl llaw’r garddwr i’w weld’. Pwysleisir hefyd bwysigrwydd hunan-gynhaliaeth: dylid bwyta bwyd lleol, syml, a chynhyrchu gwin a gwlân. Ond trasiedi sy’n cloi’r nofel, wrth i Julie farw wedi iddi neidio i’r llyn i achub un o’i phlant, ac wrth inni ddeall nad oedd hi, wedi’r cyfan, wedi concro ei theimladau tuag at Saint-Preux.