Eidyl

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Peintiad newydd-glasurol o eidyl, Idylle: famille antique gan William-Adolphe Bouguereau.

Canig seml neu gerdd fer sydd yn ymdrin â golygfeydd gwledig a bywyd y werin yw eidyl.[1] Darlun delfrydol ydy'r eidyl nodweddiadol: gwerinwyr hapus, bywyd heddychlon, a thirwedd hardd.

Daw'r enw yn y bôn o'r Hen Roeg εἰδύλλιον (eidullion, "cerdd fer" neu "lun bach"). Defnyddir yr enw yn gyntaf yn y byd Groeg-Rufeinig i ddisgrifio cerddi byrion, syml ar bynciau natur. Daeth bywyd y werin, yn enwedig y bugail, yn elfen gyffredin o'r eidyl dan ddylanwad beirdd Alecsandria yn yr oes Helenistaidd, yn enwedig Theocritus, Bion, a Moschus yn y 3g CC. Cafodd y fath farddoniaeth ei llunio ar arddulliau cerddi hirach megis yr alargan a'r arwrgerdd. Daeth yr enw yn boblogaidd unwaith eto yn llenyddiaeth y Dadeni.

Defnyddir yr enw hefyd ar weithiau celf a cherddoriaeth sydd yn portreadu golygfeydd a themâu tebyg, er enghraifft y peintiad A Welsh Family Idyll gan Vincent Evans a'r gerdd symffonig Siegfried-Idyll gan Richard Wagner.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1.  eidyl. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 30 Hydref 2018.