Jonathan Swift

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Jonathan Swift
Jonathan Swift by Charles Jervas detail.jpg
Ganwyd 30 Tachwedd 1667 Edit this on Wikidata
Dulyn Edit this on Wikidata
Bu farw 19 Hydref 1745 Edit this on Wikidata (77 oed)
Dulyn Edit this on Wikidata
Man preswyl Whitehaven Edit this on Wikidata
Alma mater Coleg y Drindod, Dulyn, Coleg Hertford Edit this on Wikidata
Gwaith Bardd, nofelydd, satirist, athronydd, gweithredydd dros hawliau dynol, pamphleteer, offeiriad, awdur, awdur ffuglen wyddonol, awdur ysgrifau Edit this on Wikidata
Gwaith nodedig Gulliver's Travels, A Modest Proposal, A Tale of a Tub Edit this on Wikidata
Priod Esther Johnson Edit this on Wikidata
Teulu Jane Swift Edit this on Wikidata
Llofnod
Jonathan Swift signature.svg

Awdur o'r Iwerddon oedd Jonathan Swift (30 Tachwedd, 1667 - 19 Hydref, 1745), a aned yn Nulyn.

Er iddo gael ei eni yn Nulyn ac iddo rannu ei amser rhwng y ddinas honno a Llundain, roedd rhieni Swift yn Saeson o Swydd Efrog ac fe'i hawlir weithiau fel awdur gan y genedl honno.

Cafodd Swift ei addysg yng Ngholeg y Drindod, Dulyn. Yn sgîl yr adwaith yn Iwerddon i Chwyldro 1688 aeth i Lundain lle daeth yn ysgrifenydd i Sir William Temple. Yn nghartref Temple cyfarfu Swift â "Stella" (Hester Johnson). Yno hefyd yr ysgrifennodd ei ddychan mwyaf gwreiddiol, A Tale of a Tub (1704).

Fe'i ordeiniwyd yn 1694 a rhannodd ei amser rhwng gofalu am ei ystad yn Iwerddon a mynychu siopa coffi a chylchoedd llenyddol Llundain. Yn 1713 cafodd ei apwyntio'n ddeon eglwys St Padrig, Dulyn. Yn 1726 cyhoeddodd ei lyfr enwocaf Gulliver's Travels, dychan ar wleidyddiaeth a syniadaeth ei ddydd yn rhith mordaith ffantasïol i wledydd pell neu ddychmygol. Bu farw yn 1745.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]


Baner Republic of IrelandEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Wyddel neu Wyddeles. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.