Ann Radcliffe

Oddi ar Wicipedia
Ann Radcliffe
Portread o Ann Radcliffe.
Ganwyd9 Gorffennaf 1764 Edit this on Wikidata
Holborn Edit this on Wikidata
Bedyddiwyd5 Awst 1764 Edit this on Wikidata
Bu farw7 Chwefror 1823 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Prydain Fawr, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaethnofelydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Arddullllenyddiaeth Gothig, nofel Gothig Edit this on Wikidata
TadWilliam Ward Edit this on Wikidata
MamAnn Oates Edit this on Wikidata
PriodWilliam Radcliffe Edit this on Wikidata

Llenor Seisnig oedd Ann Radcliffe (Ann Ward; 9 Gorffennaf 17647 Chwefror 1823) sydd yn nodedig am ei nofelau Gothig.

Ganed Ann Ward yn Holborn, Llundain, i deulu digon cefnog. Priododd Ann â'r newyddiadurwr William Radcliffe ym 1787.

Cyhoeddwyd ei dwy nofel gyntaf, The Castles of Athlin and Dunbayne (1789) ac A Sicilian Romance (1790), yn ddienw. Daeth yn enwog am ei thrydedd nofel, The Romance of the Forest (1791), a leolir yn Ffrainc yn yr 17g, ac yn sgil derbyniad ei nofel nesaf, The Mysteries of Udolpho (1794), hi oedd y nofelydd mwyaf poblogaidd yn Lloegr. Ystyrir The Mysteries of Udolpho a The Italian (1797), ei nofel olaf a gyhoeddwyd yn ystod ei hoes, ymhlith yr enghreifftiau gwychaf o'r nofel Gothig.

Teithiodd Radcliffe i'r cyfandir unwaith yn unig, i'r Iseldiroedd a'r Almaen ym 1794. Ysgrifennodd y gyfrol A Journey Made in the Summer of 1794 (1795) am ei thaith. Treuliodd ugain mlynedd olaf ei hoes yn cyfansoddi barddoniaeth, yn bennaf. Bu farw Ann Radcliffe yn Llundain yn 58 oed. Wedi ei marwolaeth, cyhoeddwyd y nofel Gaston de Blondeville (1826).[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Ann Radcliffe. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 26 Rhagfyr 2021.