Andreas
Andreas | |
---|---|
Darlun o Sant Andreas yn Llyfr Oriau De Grey (tua 1390), Llyfrgell Genedlaethol Cymru | |
Ganwyd | c. 6 CC Bethsaida |
Bu farw | 30 Tachwedd 0060 Patras |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
Dydd gŵyl | 30 Tachwedd |
Un o'r deuddeg Apostol oedd Sant Andreas (Groeg: Ανδρέας, Andreas). Roedd yn frawd i Simon Pedr ac yn fab i Jonah. Credir iddo gyfoesi gyda Christ ac iddo, felly, fyw yn hanner cynta'r 1c. Roedd yr enw'n eitha poblogaidd gan Iddewon yr oes, ac mae'n golygu 'dewr', 'dynol'. Ei ddydd gŵyl yw 30 Tachwedd.
Ceir ei hanes yn y Testament Newydd. Yn Mathew 4:18–22 ac yn Marc 1:16–20, dywedir ei fod yn frodor o bentref Bethsaida, Galilea, ac yn bysgotwr ar Fôr Galilea pan alwyd ef a'i frawd Pedr gan Iesu fel un o'i ddeuddeg disgybl. Dywedir i Grist ddweud "Ac mi a'ch gwnaf yn bysgotwyr dynion."; dyma darddiad y gair "Disgyblion" (Groeg: ἁλιεῖς ἀνθρώπων, halieis anthrōpōn).[1]
Dywedir yn Llyfr Ioan 1:35–42, ei fod yn ddisgybl i Ioan Fedyddiwr ac i hwnnw ei gyfeirio at Grist.
Dywedir iddo gael ei ferthyru yn ninas Patras yng Ngwlad Groeg trwy gael ei groeshoelio ar groes o'r ffurf a elwir yn Crux decussata neu Groes Sant Andreas, ar ffurf X. Cadwyd ei gorff yn Patras. Ychydig wedi hynny, tua 357 OC, daeth gorchymyn gan Constantius II i symud ei esgyrn o Patras i Eglwys yr Apostolion Sanctaidd yng Nghaergystennin.[2] Yn nheyrnasiad yr Ymerawdwr Basil I (867–886), dychwelwyd penglog Andreas yn ôl i Patras.[3]
Creiriau
[golygu | golygu cod]Cedwir creiriau a gysylltir gydag Andreas mewn nifer o lefydd gan gynnwys: Basilica Sant Andreas yn Patras, Groeg, Eglwys Gadeiriol Amalfi (y 'Duomo di Sant'Andrea'), yr Eidal, ac Eglwys Gadeiriol Gatholig y Santes Fair, Caeredin. Casglwyd llawer o fân greiriau a gysytlltir gydag ef ledled y byd.
Nawddsant
[golygu | golygu cod]Mae'n nawdd-sant yr Alban, Rwsia, Sicilia, Gwlad Groeg, Romania, Amalfi, Luqa (Malta) a Prwsia, hefyd yn nawdd-sant pysgotwyr a llongwyr.
Dywedir i lawer o greiriau Andreas gael eu dwyn i dref bresennol St Andrews (Gaeleg: Cill Rìmhinn). Ceir dwy ddogfen, a gedwir yn y Bibliothèque Nationale, Paris a'r llall yn y Llyfrgell Brydeinig, Llundain, sy'n nodi iddynt gael eu cludo i'r Brenin Óengus mac Fergusa (729–761) gan fynach Gwyddelig o'r enw Regulus (neu Riagail).
Yn ôl traddoiad, yn 832 OC, arweiniodd Óengus II ei fyddin yn erbyn yr Angle Æthelstan, ble saif Athelstaneford, Dwyrain Lothian. Gweddiodd Óengus am fuddugoliaeth gan fod ganddo lawer llai o filwyr yn ei fyddin ef, na'r Angles, a cyhoeddodd y byddai'n dyrchafu Andreas i fod yn Nawddsant pe bai'n trechu'r mewnfudwyr niferus. Ar hyn, ffurfiwyd croes o gymylau yn yr awyr, a chyhoeddwyd fod hyn yn arwydd o fuddugoliaeth. Bu'r Albanwyr yn fudugoliaethus, a chadwodd at ei air gan ddyrchafu Andreas yn Nawddsant.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Metzger & Coogan (1993) Oxford Companion to the Bible, t 27.
- ↑ "MacRory, Joseph. "St. Andrew." The Catholic Encyclopedia. Cyfr. 1. Efrog Newydd: Robert Appleton Company, 1907. 29 Hydref 2012". Newadvent.org. 1907-03-01. Cyrchwyd 2013-09-06.
- ↑ Christodoulou, Alexandros. "St. Andrew, Christ’s First-Called Disciple", Pemptousia Archifwyd 17 Mawrth 2014 yn y Peiriant Wayback
|