Sisili

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Sicilia)
Jump to navigation Jump to search
Regione Siciliana
Flag of Sicily.svg
Prifddinas Palermo
Arlywydd Rosario Crocetta
Taleithiau Agrigento
Caltanissetta
Catania
Enna
Messina
Palermo
Ragusa
Syracuse
Trapani
Bwrdeistrefi 390
Arwynebedd 25,708 km2
 - Safle 1af (8.5) %
Poblogaeth
 - Cyfanswm

 - Safle
 - % yr Eidal
 - Dwysedd


5,017,212
4fed
8.5 %
195/km2
Piemonte
Lleoliad Sisili yn yr Eidal

Ynys yng nghanol y Môr Canoldir a rhanbarth o'r Eidal yw Sisili (hefyd Sisilia) (Sisilieg: Sicìlia; Eidaleg: Sicilia). Mae Culfor Messina yn gorwedd rhwng yr ynys a'r tir mawr. Ei harwynebedd tir, gan gynnwys y mân ynysoedd, yw 25,710 km² (9927 milltir²). Y brifddinas yw Palermo.

Daearyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Sisili yw'r ynys fwyaf yn y Môr Canoldir. Gyda'r ynysoedd llai oddi amgylch (Ynysoedd Égadi ac Ynysoedd Lipari yw'r ddau grŵp mwyaf) mae'n rhanbarth hunanlywodraethol yn yr Eidal. Mae'r ynys yn fynyddig iawn, gan godi i 1800m ym Mynydd Etna.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Hanes Sisili

Ymsefydlai'r Groegiaid ar yr ynys o'r 8fed ganrif CC ymlaen. Meddianwyd rhan o'r ynys gan y Carthaginiaid yn fuan ar ôl hynny a bu cryn ymrafael rhwng y ddwy blaid am rai canrifoedd. Fe'i meddianwyd gan y Rhufeiniaid yn ail hanner y drydedd ganrif CC ac erbyn 211 CC roedd yn dalaith Rufeinig.

Goresgynwyd yr ynys gan yr Arabiaid yn y 9g a datblygodd diwylliant hybrid unigryw ar yr ynys. Yn 1060 cyrhaeddodd y Normaniaid a meddianwyd yr ynys ganddynt yn eu tro. Yn 1266 coronwyd Siarl I, brenin Napoli a Sisili yn frenin Angevinaidd cyntaf Sisili. Cwnwerwyd yr ynys gan deyrnas Aragon yn 1284 yn sgîl Cyflafan y Gosber Sisiliaidd.

Creuwyd Teyrnas y Ddwy Sisili yn 1815 gan Ferdinand I o Awstria a Hwngari. Cipiodd Garibaldi yr ynys yn 1860 ac unwyd Sisili â gweddill yr Eidal. Am flynyddoedd bu hanes yr ynys yn ansefydlog a llawn tensiynau cymdeithasol oherwydd cyflwr economaidd y wlad, tlodi a grym y Maffia a cheidwadwyr eglwysig. Ymfudodd nifer fawr o Sisiliaid tlawd i'r Unol Daleithiau oherwydd hynny.

Sisili o'r gofod
Taleithiau Sisili

Economi[golygu | golygu cod y dudalen]

Erbyn heddiw mae economi yr ynys yn bur ffynnianus. Un o'r diwydiannau mwyaf yw twristiaeth.

Cysylltiad Allanol[golygu | golygu cod y dudalen]