Masnachfraint Cymru a'r Gororau
Mae Masnachfraint Cymru a'r Gororau yn fasnachfraint rheilffordd ar gyfer gwasanaethau i deithwyr yng Nghymru ac rhwng Cymru a Lloegr.
Hanes
[golygu | golygu cod]Cymru a'r Gororau (Wales & Borders)
[golygu | golygu cod]Ym mis Mawrth 2000 cyhoeddodd yr Awdurdod Rheilffyrdd Strategol Cysgodol gynllun i greu masnachfraint ar wahân i Gymru a'r Gororau.[1][2] Ym mis Hydref 2001 ail-drefnwyd masnachfreintiau y Valley Lines a Wales & West fel Wales & Borders a Wessex Trains, gyda'r cwmni blaenorol yn cymryd y cyfrifoldeb am rhan fwyaf o'r gwasanaethau yng Nghymru gan gynnwys gwasanaethau'r Cambrian oddi wrth Central trains. Gweithredwyd yr holl fasnachfreintiau gan National Express.[3][4]
Ym mis Medi 2003 trosglwyddwyd y gwasanaethau canlynol i Wales & Borders: Birmingham New Street, Crewe a Piccadilly Manceinion i Landudno a Chaergybi, yn ogystal a'r rhai rhwng Bidston a Wrecsam Canolog a Llandudno a Blaenau Ffestiniog, a weithredwyd gan First North Western.[5]
Trenau Arriva Cymru
[golygu | golygu cod]Ym mis Hydref 2002 lluniwyd rhestr fer o Arriva, Connex/GB Railways, National Express a Serco-Abellio a'u gwahodd i gynnig am y fasnachfraint nesaf.[6][7] Yn Rhagfyr 2003 cychwynnodd Arriva ar gontract 15 mlynedd i weithredu'r fasnachfraint tan 2018, yn masnachu fel Trenau Arriva Cymru.[8][9][10]
Trafnidiaeth Cymru
[golygu | golygu cod]Ym mis Hydref 2016 lluniwyd rhestr fer o gwmnïau i gynnig am y fasnachfraint nesaf, sef Abellio, Arriva, Keolis / Amey (menter ar y cyd) a Chorfforaeth MTR.[11][12] Bydd y fasnachfraint yn cael ei weithredu o dan y brand Trafnidiaeth Cymru (Transport for Wales).[13] Ym mis Hydref 2017, tynnodd Arriva allan o'r broses.[14][15] Yna tynnodd Abellio allan ym mis Chwefror 2018 yn dilyn cwymp ei bartner Carillion ym mis Ionawr.[16] Ym mis Mai 2018 dyfarnwyd y contract i KeolisAmey Cymru bydd yn gweithredu o dan yr enw Trafnidiaeth Cymru am gyfnod o 15 mlynedd o 14 Hydref 2018 ymlaen mewn contract gwerth £5bn.[17] Bydd y contract yn gwneud buddsoddiad hir-ddisgwyledig i'r rhwydwaith, gan gynnwys:[18]
- £800m o fuddsoddiad mewn trenau
- £194m i foderneiddio 247 o orsafoedd ac adeiladu pedair gorsaf Metro
- 285 gwasanaeth ychwanegol o ddydd Llun i ddydd Gwener
- 294 gwasanaeth ychwanegol ar ddydd Sul
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "SSRA redraws franchise map" Railway Gazette International August 2000 page 459
- ↑ The Wales and Borders Franchise House of Commons Select Committee on Welsh Affairs Third Report 17 March 2004
- ↑ "Wales & West splits ready for new franchise" Rail Magazine rhif 417 (5 Medi 2001), t.11
- ↑ "Central's Welsh trains go to Wales & Borders" Rail Magazine, rhif 422 (14 Tachwedd 2001), t.16
- ↑ "First North Western in split" The Railway Magazine, rhif 1202 (Mehefin 2001), t.11
- ↑ "Four still in race for Wales & Borders" Rail Magazine, rhif 446 (16 Hydref 2002), t.12
- ↑ "Dutch plan a Welsh invasion" The Railway Magazine, rhif 1221 (Ionawr 2003), t.6
- ↑ "Arriva preferred bidder for 15-year Wales franchise" Rail Magazine, rhif 468 (20 Awst 2003), t.13
- ↑ "Arriva wins Wales & Borders" Rail Express, rhif 88 (Medi 2003), t.6
- ↑ "Arriva to operate Wales & Borders" The Railway Magazine, rhif 1230 (Hydref 2003), t.35
- ↑ Rail operator shortlist revealed Welsh Government 12 October 2016
- ↑ Wales & Borders bidders asked to propose Metro options Railway Gazette International 13 October 2016
- ↑ "TfW to replace operator's branding". Rail Magazine. Press Reader. 30 August 2017. Cyrchwyd 23 January 2018.
- ↑ Arriva pulls out of Wales & Borders franchise contest Archifwyd 2017-11-07 yn y Peiriant Wayback International Railway Journal 30 October 2017
- ↑ Arriva Trains Wales drops out of Welsh rail franchise bid BBC News 30 Hydref 2017
- ↑ "Abellio ends rail bid after Carillion collapse". BBC News. 23 Chwefror 2018. Cyrchwyd 25 February 2018.
- ↑ Wales' rail and metro franchise to be run by KeolisAmey BBC News 23 Mai 2018
- ↑ "New trains and more services in £5bn deal". BBC News (yn Saesneg). 2018-06-04. Cyrchwyd 2018-06-04.