Cyfnewidfa Fysiau Caerdydd
- Am yr orsaf fysiau Caerdydd tan 2015, gweler Gorsaf fysiau Caerdydd Canolog
Prif gyfnewidfa cludiant bws yng Nghaerdydd, prifddinas Cymru, yw Cyfnewidfa Fysiau Caerdydd. Agorwyd ym Mehefin 2024.
Datblygu ac adeiladu
[golygu | golygu cod]Caeodd yr hen orsaf fysiau Caerdydd yn 2015, gyda ddisgwyliad o ail-datblygu yr ardal Sgwâr Canolog.[1] Prynodd Llywodraeth Cymru y tir drws nesa i'r hen safle a disgwylwyd yr olynydd yn cael ei gwblhau erbyn 2022.[2] Yn 2016 cafodd yr hen adeiladau ar y safle, Marland House a'r maes parcio aml-lawr, eu dymchwel.[3]
Yn 2019 llofnodwyd contract rhwng cwmnïau Rightacres, Legal & General, a Llywodraeth Cymru i gwblhau’r adeilad, gan gynwys swyddfeydd a mwy na 300 o fflatiau i'w rhenti.[4]
Agorodd y Gyfnewidfa Fysiau Caerdydd newydd o’r diwedd ar 30 Mehefin 2024.[5]
Cyfleustrau a gwasanaethau
[golygu | golygu cod]Mae'r gyfnewidfa yn cynwys 14 bae bws a nifer o unedau manwerthum ar y lefel daear.[6]
Roedd 25 bws yr awr yn defnyddio yr orsaf, i gyrchfannau ar draws Gaerdydd a Bro Morgannwg. Roedd disgwyl iddo gynyddu i 60 bws yr awr erbyn diwedd 2024.[5]
Basai y gwasanaethau eraill yn dal i ddefnyddio safleoedd bws ar draws y canol y ddinas. Basai bysiau National Express, i gyrchfannau ar draws y Deyrnas Unedig, yn dal i ddefnyddio yr orsaf fysiau yng Ngherddi Sophia.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Cau gorsaf bws Caerdydd cyn ail-ddatblygu. BBC Cymry Fyw (1 Awst 2015). Adalwyd ar 22 Gorffennaf 2024.
- ↑ Lleu, Bleddyn (18 Medi 2020). Gorsaf fysiau Caerdydd ddim yn barod tan ddiwedd 2022. Golwg360. Adalwyd ar 22 Gorffennaf 2024.
- ↑ (Saesneg) Demolition of Cardiff city centre 'eyesore' starts. BBC News (3 May 2016). Adalwyd ar 22 Gorffennaf 2020.
- ↑ (Saesneg) Cardiff's bus station is finally going to be built - but won't open for another four years. Wales Online (30 Gorffennaf 2019). Adalwyd ar 22 Gorffennaf 2020.
- ↑ 5.0 5.1 Cyfnewidfa fysiau newydd Caerdydd yn agor ei drysau. BBC Cymry Fyw (30 Mehefin 2024). Adalwyd ar 22 Gorffennaf 2024.
- ↑ Gorsaf fysiau newydd Caerdydd yn agor yn swyddogol bron i 10 mlynedd ers cau'r hen un. Newyddion S4C (30 Mehefin 2024). Adalwyd ar 22 Gorffennaf 2024.