Gorsaf fysiau Caerdydd Canolog
Gwedd
Math | gorsaf fysiau, former bus station ![]() |
---|---|
Agoriad swyddogol | 1954 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Caerdydd ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.4764°N 3.1791°W ![]() |
Rheolir gan | Cyngor Caerdydd ![]() |
![]() | |
Perchnogaeth | Cyngor Caerdydd ![]() |
- Am yr orsaf fysiau newydd ers 2024, gweler Cyfnewidfa Fysiau Caerdydd

Cyfnewidfa cludiant bws yng Nghaerdydd, prifddinas Cymru, oedd gorsaf fysiau Caerdydd Canolog.
Agorwyd hi ar y hen safle Temperance Town, rhwng yr orsaf reilffordd a Stryd Wood, yn 1954.
Gyda 34 o stondinau, dyma oedd yr orsaf fysiau mwyaf y ddinas a Chymru tan 1 Awst 2015.[1] Ar ôl 2015, cafodd yr ardal (Sgwâr Canolog) ei hailddatblygu, gyda phencadlys newydd i'r BBC a nifer o swyddfeydd eraill.
Lleoliwyd gerllaw gorsaf reilffordd Caerdydd Canolog gan ffurfio prif gyfnewidfa bws, rheilffordd, beiciau a thacsis.
Prynodd Llywodraeth Cymru y tir drws nesa i'r hen safle a disgwylwyd yr olynydd yn cael ei gwblhau erbyn 2022.[2] Agorodd y Cyfnewidfa Fysiau Caerdydd newydd o’r diwedd ar 30 Mehefin 2024.[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Cau gorsaf bws Caerdydd cyn ail-ddatblygu. BBC Cymry Fyw (1 Awst 2015). Adalwyd ar 24 Tachwedd 2020.
- ↑ Lleu, Bleddyn (18 Medi 2020). Gorsaf fysiau Caerdydd ddim yn barod tan ddiwedd 2022. Golwg360. Adalwyd ar 24 Tachwedd 2020.
- ↑ Cyfnewidfa fysiau newydd Caerdydd yn agor ei drysau. BBC Cymry Fyw (30 Mehefin 2024). Adalwyd ar 21 Gorffennaf 2024.
