Neidio i'r cynnwys

KeolisAmey Cymru

Oddi ar Wicipedia
KeolisAmey Cymru
Gorolwg
Masnachfraint
Prif region(oedd)Cymru
region(oedd) arall
RhagflaenyddTrenau Arriva Cymru
OlynyddTrafnidiaeth Cymru Trenau
Cwmni rhiant
Gwefantrctrenau.cymru, www.keolisamey.cymru/cy/
Technical
Lled1,435 mm (4 ft 8 1⁄2 in)
Cyhoeddiad trên hwyr ar wasanaeth Trafnidiaeth Cymru

Roedd Gweithrediadau KeolisAmey Cymru yn masnachu fel Gwasanaethau Rheilffordd Trafnidiaeth Cymru,[1][2] a weithredodd masnachfraint Cymru a'r Gororau rhwng Hydref 2018 a Chwefror 2021.

Ar 22 Hydref 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu bod am gamu mewn i redeg y gwasanaethau yn uniongyrchol drwy is-gwmni. Roedd hyn yn dilyn y pandemig coronafeirws pan cwympodd y nifer o deithwyr yn sylweddol. Cychwynodd y drefn newydd o 7 Chwefror 2021 gan drosglwyddo y gweithrediadau i gwmni Trafnidiaeth Cymru Trenau.[3] Bydd cwmni Amey Keolis Infrastructure Cyf yn parhau i ofalu am yr isadeiledd ar linellau craidd y cymoedd a bydd Keolis Amey yn parhau i ddarparu eu arbennigedd drwy bartneriaeth.[4]

Ym mis Hydref 2016 cyrhaeddodd tri chwmni y rhestr fer ar gyfer masnachfraint nesaf Cymru a'r Gororau, sef Abellio, y gweithredwr cyfredol Arriva, a menter ar y cyd rhwng Keolis/Amey a Chorfforaeth MTR.[5][6]

Ym mis Hydref 2017, gadawodd Arriva y broses, wedi ei ddilyn ym mis Chwefror 2018 gan Abellio yn dilyn cwymp eu partner Carillion.[7][8][9][10] Ym mis Mai 2018, dyfarnwyd y fasnachfraint newydd i Keolis Amey Wales Cymru. Roedd yn cychwyn ar 14 Hydref 2018 gyda'r bwriad o redeg am 15 mlynedd.[11]

Yn wahanol i'r fasnachfraint flaenorol, a ddyfarnwyd gan yr Adran Drafnidiaeth yn Llundain, dyfarnwyd y fasnachfraint newydd gan Drafnidiaeth Cymru.

Gwelliannau

[golygu | golygu cod]

Mae yna gynlluniau i wella'r gwasanaethau rhwng 2018 a 2033 fel rhan o'r fasnachfraint newydd:

  • Cyflwyno unedau newydd diesel dau a thri cherbyd ar gyfer gwasanaeth Aberdaugleddau i Manchester Piccadilly erbyn 2023
  • Deuddeg cerbyd Mark 4 wedi ailwampio, ar gyfer prif wasanaeth Caergybi i Gaerdydd Ganolog
  • Buddsoddi yng ngorsaf Caer erbyn 2028
  • Cynyddu gwasanaethau Wrecsam Canolog i Bidston i 2 dren bob awr erbyn Rhagfyr 2021 fel rhan o Metro Gogledd Ddwyrain Cymru
  • Cyflwyno gwasanaeth newydd bob awr rhwng Lerpwl Lime Street a Chaer o Ragfyr 2018
  • Cyflwyno gwasanaeth newydd bob awr rhwng Lerpwl, Llandudno a'r Amwythig o Ragfyr 2022
  • Cyflwyno gwasanaeth newydd bob dwy awr o Lerpwl i Gaerdydd Canolog o Ragfyr 2022
  • Cyflwyno gwasanaeth uniongyrchol o Faes Awyr Manceinion i Fangor o Ragfyr 2022
  • Gwasanaethau bob awr rhwng Cheltenham Spa a Chaerdydd erbyn Rhagfyr 2022
  • DMUs newydd ar lein y Cambrian yn ystod 2022 i ddisodli yr hen Ddosbarth 158 Express Sprinters
  • Trenau wedi ei adnewyddu, Dosbarth 170 Turbosta ar linell Calon Cymru erbyn 2022
  • Buddsoddi yng nghorsafoedd Caerfyrddin a Machynlleth erbyn 2021 a gorsaf Llanelli erbyn 2025
  • Darparu peiriannau tocyn mewn mwy o orsafoedd
  • Cyflwyno Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol newydd ar gyfer llinelli Gorllewin Cymru
  • Gwasanaeth un trên yr awr cyson ar lein y Cambrian o'r Amwythig i Aberystwyth
  • Gwasnaeth ychwanegol bob dydd ar linell Calon Cymru o Ragfyr 2022
  • Gwasanaethau ychwanegol ar Suliau yn ystod yr haf o Fai 2023 rhwng Tywyn a Phwllheli – yn cynnwys gwasanaeth newydd cyflym 1 trên yr awr rhwng prif ganolfannau erbyn 2025
  • Gwasanaeth dosbarth cyntaf rhwng Abertawe a Manceinion o Ragfyr 2024
  • Cyfnewid holl gerbydau Dosbarthau 142 a 143 Pacers erbyn diwedd 2019
  • Cyflwyno Metro Canolog sy'n gwella amserau teithio a chynyddu amledd i o leia pedwar trên bob awr o frig bob llinell y Cymoedd drwy ddefnyddio trenau newydd
  • Cyflwyno talu-wrth-fynd ar gyfer defnyddwyr cardiau clyfar erbyn Ebrill 2020
  • Dileu defnydd diesel ar linellau Metro Canolog (i'r gogledd o Gaerdydd Heol y Frenhines) erbyn 2024
  • Darparau peiriannau tocyn yn holl orsafoedd Metro De Cymru erbyn Ebrill 2019
  • Adeiladu gorsafoedd newydd yn Sgwâr Loudon, Ffordd Crwys ac y Flourish erbyn Rhagfyr 2023 a Gabalfa erbyn 2028 a adleoli gorsaf Stad Trefforest erbyn Rhagfyr 2025
  • Cyflwyno trenau newydd tri-modd rhwng Penarth, Barry a Phen-y-bont ar Ogwr i gyrchfannau gogledd i Gaerdydd Canolog
  • Gwasanaeth newydd 1 tren yr awr (tya) rhwng Tref Glyn Ebwy a Chasnewydd o Fai 2021
  • 2tya rhwng Caerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr drwy linell Bro Morgannwg o Ragfyr 2023
  • 4tya ar linell Rhymni o Ragfyr 2023
  • 4tya i Dreherbert o Ragfyr 2022
  • 6tya i Fae Caerdydd o Ragfyr 2022
  • 4tya rhwng Merthyr Tudful, Aberdar a Chaerdydd o Ragfyr 2022
  • 4tya rhwng Caerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr (uniongyrchol, Llun i Sadwrn) o Ragfyr 2019
  • Cyflwyno fflyd newydd o unedau lluosog diesel (DMU) i linell Arfordir Gogledd Cymru yn 2022
  • Buddsoddi yng nghorsafoedd Shotton a Wrecsam Canolog erbyn Ebrill 2024
  • Buddsoddi i gyd-gyllido adeilad gorsaf newydd ym Mlaenau Ffestiniog

Cerbydau

[golygu | golygu cod]

Bydd Trenau TrC yn etifeddu fflyd o unedau diesel lluosog Dosbarthau 142, 143, 150, 153, 158 a 175 a cherbydau Marc 3 oddi wrth Drenau Arriva Cymru.

Fflyd etifeddol

[golygu | golygu cod]
Dosbarth Llun Math Cyflymder uchaf Cerbyd Nifer Llwybrau Weithredwyd Adeiladwyd
mph kph
Stoc locomotif tynnu
67 Loco 125 200 3 Premier Service: Caergybi-Caerdydd Canolog
  • Caergybi (Llandudno)–Manchester Piccadilly
1999–00
Mark 3 Coach 12 1975–88
DVT 3 1988
Unedau diesel lluosog
142 Pacer DMU 75 121 2 15 Llinellau'r Cymoedd a llwybrau lleol Caerdydd 1985–87
143 Pacer DMU 75 121 2 15 Llinellau'r Cymoedd a llwybrau lleol Caerdydd
1985–86
150/2 Sprinter DMU 75 121 2 36
  • Llwybrau lleol Caerdydd
  • Llwybrau Calon Cymru
  • Gwasanaethau rhanbarthol rhwng De a Gorllewin Cymru, Gogledd Orllewin a de Orllewin Lloegr
1986–87
153 Super Sprinter DMU 75 121 1 8
  • Llwybrau lleol Caerdydd
  • Llinellau Calon Cymru/Gorllewin Cymru
  • v
1987–88
158/0 Express Sprinter DMU 90 140 2 24
  • Birmingham International–Aberystwyth
  • Gwasanaethau rhanbarthol rhwng De a Gogledd Cymru, Gogledd Orllewin a de Orllewin Lloegr
1990–91
175/0 & 175/1 Coradia DMU 100 161 2 11 Gwasanaethau rhanbarthol rhwng Gogledd Orllewin Lloegr, De a Gogledd Cymru
1999–01
3 16

Fflyd y dyfodol

[golygu | golygu cod]

Disgwylir y bydd y fflyd cyfan a etifeddwyd gan Drenau TrC yn cael eu disodli erbyn 2023, gyda hanner y trenau newydd i'w cynhyrchu gan CAF yn ei ffatri yn Llanwern.[12]

Bydd cyfanswm o 77 uned lluosog diesel CAF Civity yn cael eu hadeiladu. Bydd yna hefyd nifer o unedau diesel lluosog ail-ddefnydd yn ymuno â'r fflyd, gyda phum Nodyn:Brcs o Great Western Railway (ar sail tymor byr yn unig) a deuddeg Dosbarth 170/2s o Greater Anglia.[13]

Hefyd, mae cyfanswm o unedau 35 Stadler FLIRT wedi'u harchebu; 24 tri-dull ac un ar ddeg diesel-trydan. Mae 36 trenau-tram Stadler Citylink tri cerbyd hefyd wedi ei archebu.

Mae pump uned Dosbarth 230 o hefyd wedi ei archebu o Vivarail, a mae deuddeg cerbyd Marc 4 i ymuno â'r fflyd o London North Eastern Railway ar ôl cael ei hadnewyddu.

Dosbarth Llun Math Cyflymder Uchaf Cerbydau Nifer Llwybrau Weithredir Adeiladwyd Mewn Gwasanaeth
mph kph
Stoc locomotif tynnu
Mark 4 Coach 140 225 12 Gwasanaethau rhwng Gogledd a De Cymru[14]
1989–92 2019
Unedau diesel lluosog
153 Super Sprinter[15] DMU 75 121 1 5 Llwybrau cefn gwlad yng Ngorllewin Cymru 1987–88 2019
170/2 Turbostar DMU 100 161 2 4 1999–02 2019
3 8
i'w gadarnhau Civity[16] DMU i'w gadarnhau i'w gadarnhau 2 51
  • Llinell y Cambrian (o 2022)
  • Gwasanaethau rhanbarthol rhwng Gogledd, De a Gorllewin Cymru a Lloegr (o 2023)
i'w gadarnhau 2021–23
3 26
Unedau lluosog diesel-trydan
230 D-Train DEMU 60 97 3 5 Llinell Dyffryn Conwy , Llinell Borderlands, Caer-Crewe[17][18] TBC 2019
TBC FLIRT DEMU i'w gadarnhau i'w gadarnhau 4 11 Gwasanaethau yn Ne-Ddwyrain Cymru
TBC 2022
Unedau lluosog deu-fodd
769 Flex BMU i'w gadarnhau i'w gadarnhau 4 5 I'w gadarnhau TBC 2018[nb 1]
Unedau lluosog tri-modd
(i'w gadarnhau) FLIRT TMU i'w gadarnhau i'w gadarnhau 3 7 Gwasanaethau rhwng Rhymni/Coryton i Benarth/Ynys y Barri/Pen-y-bont ar Ogwr trwy Fro Morgannwg i'w gadarnhau 2023
4 17
Trenau-tram
TBC Citylink Tram-train i'w gadarnhau i'w gadarnhau 3 36 Gwasanaethau i Dreherbert, Aberdar a Merthur Tudful i'w gadarnhau 2022–23

Nodiadau

[golygu | golygu cod]
  1. Class 319/4 units were initially built between 1987 and 1988

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Full legal name is bilingual including the Welsh name, as "Keolis Amey Operations / Gweithrediadau Keolis Amey Limited". "Keolis Amey Operations/Gweithrediadau Keolis Amey Limited". gov.uk. Companies House. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 Ionawr 2021. Cyrchwyd 15 Mai 2020.
  2. "KEOLIS AMEY WALES CYMRU LIMITED". beta.companieshouse.gov.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 5 Tachwedd 2018.
  3.  Datganiad Ysgrifenedig: Diweddariad Dyfodol y Rheilffyrdd. Llywodraeth Cymru (22 Hydref 2020).
  4. Llywodraeth Cymru’n cadarnhau eu bod yn camu i mewn i reoli’r rheilffyrdd , Golwg360, 22 Hydref 2020.
  5. "Rail operator shortlist revealed" (Press release). Llywodraeth Cymru. 2016-10-12. http://gov.wales/newsroom/transport/2016/161013-rail-operator-shortlist-revealed/?lang=en. Adalwyd 2018-09-30.
  6. "Wales & Borders bidders asked to propose Metro options". Railway Gazette International. Sutton: DVV Media Group. 2016-10-13. ISSN 0373-5346. Cyrchwyd 2018-09-30.
  7. "Arriva pulls out of Wales & Borders franchise contest". International Railway Journal. Falmouth: Simmons-Boardman Publishing. 2017-10-30. ISSN 0744-5326. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-11-07. Cyrchwyd 2018-10-05.
  8. "Arriva Trains Wales drops out of Welsh rail franchise bid". BBC News. BBC. 2017-10-30. Cyrchwyd 2018-09-30.
  9. "Abellio ends rail bid after Carillion collapse". BBC News. BBC. 2018-02-23. Cyrchwyd 2018-09-30.
  10. "Abellio pulls out of Wales & Borders bidding". International Railway Journal. Falmouth: Simmons-Boardman Publishing. 2018-02-23. ISSN 0744-5326. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-05-23. Cyrchwyd 2018-10-05.
  11. "Wales' rail and metro franchise to be run by KeolisAmey". BBC News. BBC. 2018-05-23. Cyrchwyd 2018-09-30.
  12. Barry, Sion (2018-06-04). "How Wales' railways will be transformed with new stations, trains and jobs through investment worth billions". WalesOnline. Caerdydd: Reach. Cyrchwyd 2018-09-30.
  13. "AMs WB Overview Presentation vJP AM" (PDF). KeolisAmey Wales. KeolisAmey Wales. Cyrchwyd 5 Mehefin 2018.[dolen farw]
  14. "What's Happening in North Wales". Transport for Wales. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-06-07. Cyrchwyd 4 June 2018.
  15. "Service Improvements" (PDF). Transport for Wales. Welsh Government. Cyrchwyd 4 June 2018.[dolen farw]
  16. "KeolisAmey reveal new-look Wales trains and services". BBC News. BBC. 2018-06-04. Cyrchwyd 2018-06-04.
  17. "Vivarail Class 230s for Wales". Railways Illustrated. Rhif. 187. Key Publishing. September 2018. t. 13. ISSN 1479-2230.
  18. "Vivarail announce new order for Wales and Borders". 2018-06-07. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-10-02. Cyrchwyd 2018-10-02.