Virgin Trains

Oddi ar Wicipedia
Virgin Trains
Math
cwmni gweithredu trenau ym Mhrydain Fawr
Math o fusnes
cwmni preifat
Sefydlwyd1997
SefydlyddRichard Branson
Daeth i ben7 Rhagfyr 2019
PencadlysLlundain
PerchnogionVirgin Group (0.51), Stagecoach Group (0.49)
Rhiant-gwmni
Virgin Group
Gwefanhttp://www.virgintrains.co.uk/ Edit this on Wikidata
Pendolino yn Piccadilly.

Cwmni gweithredu trenau yn y Deyrnas Unedig oedd Virgin Trains a weithredodd masnachfraint InterCity Arfordir y Gorllewin rhwng Mawrth 1997 a 8 Rhagfyr 2019. Roedd yn eiddo i Virgin Rail Group, menter ar y cyd rhwng Virgin Group (51%) a Stagecoach (49%.) Yng Nghymru, roedden nhw'n gyfrifol am drenau yn teithio o Lundain i Gaergybi. Yn Rhagfyr 2019 pasiodd y fasnachfraint i reolaeth Gwmni Avanti West Coast.

Methodd y cwmni wneud cais am y fasnachfraint newydd am fod Adran Drafnidiaeth Llywodraeth San Steffan wedi gwahardd eu partner Stagecoach ym mis Ebrill 2019 oherwydd anghydfod ynghylch rhwymedigaethau pensiwn.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Trenau Virgin yn dod i ben , Golwg360, 7 Rhagfyr 2019.
Eginyn erthygl sydd uchod am gludiant. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.