Avanti West Coast
Gwedd
| Enghraifft o: | cwmni gweithredu trenau |
|---|---|
| Dechrau/Sefydlu | 8 Rhagfyr 2019 |
| Rhagflaenydd | Virgin Trains |
| Rhiant sefydliad | FirstGroup |
| Gwefan | https://www.avantiwestcoast.co.uk/ |
| Dynodwyr | |

Mae Avanti West Coast yn gwmni gweithredu trenau Prydeinig sy'n eiddo i FirstGroup (70%) a Trenitalia (30%) sy'n gweithredu masnachfraint West Coast Partnership. Disodlodd y cwmni Virgin Trains ym mis Rhagfyr 2019.[1] Ar hyn o bryd maent yn gweithredu gwasanaethau ar hyd Prif Linell Arfordir y Gorllewin, yn bennaf rhwng Llundain a'r Alban. Fodd bynnag, maent hefyd yn darparu gwasanaethau rheolaidd rhwng Llundain a Birmingham, Manceinion, Lerpwl, Blackpool, Amwythig, Caer a Chaergybi. Mae'n rheoli 15 o orsafoedd ac mae ei drenau'n galw ar 46.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "First Trenitalia chooses Hitachi Rail to build new intercity trains for Avanti West Coast". FirstGroup PLC. Cyrchwyd 6 Rhagfyr 2019.