Gorsaf reilffordd Amwythig
| Math | gorsaf reilffordd |
|---|---|
| Agoriad swyddogol | 1848 |
| Daearyddiaeth | |
| Lleoliad | Amwythig |
| Sir | Amwythig |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 52.7115°N 2.7502°W |
| Cod OS | SJ494129 |
| Rheilffordd | |
| Côd yr orsaf | SHR |
| Rheolir gan | Trenau Arriva Cymru, KeolisAmey Cymru |
![]() | |
| Perchnogaeth | Network Rail |
| Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II |
| Manylion | |
Mae gorsaf reilffordd Amwythig (Saesneg: Shrewsbury railway station) (a elwid gynt yn Amwythig Cyffredinol) yn orsaf reilffordd sydd yn gwasanaethu Amwythig, tref sirol Swydd Amwythig, Lloegr. Hon yw'r unig orsaf reilffordd ar ôl yn y dref; mae Gorsaf Abaty Amwythig, yn ogystal â gorsafoedd bychain eraill o amgylch y dref, wedi cau beth amser yn ôl. Cynlluniwyd yr orsaf gan T M Penson a chafodd yr orsaf ei hadeiladu ym 1848 ac mae wedi cael ei hymestyn sawl gwaith ers hynny[1]. Cafodd ei dynodi'n adeilad rhestredig gradd II yn 1969.
Hi oedd yr unig le lle ceid gwasanaeth trên uniongyrchol o dde-ddwyrain,, de-orllewin, canolbarth a Gogledd Cymru.
Hanes ei rheilffyrdd
[golygu | golygu cod]Agorwyd Rheilffordd Amwythig, Croesoswallt a Chaer ym mis Hydref, 1848. Doedd ddim cysylltiad â Chroesoswallt oherwydd problemau efo tirfeddianwyr. Yn hwyrach, aeth trenau trwy Amwythig ar eu ffordd rhwng Gorsaf Paddington Llundain a Phenbedw. Erbyn hyn, mae trenau'n mynd trwodd ar eu ffordd rhwng Gorsaf reilffordd Euston a Chaergybi.
Ym 1949, agorwyd lein i Wellington, adeiladwyd ar y cyd rhwng Rheilffordd Amwythig a Birmingham a Cwmni Rheilffordd a Chamlas Undeb Amwythig, perchnogion Camlas Ellesmere. Wedyn agorwyd lein gan gwmni Undeb Amwythig rhwng Wellington a Stafford, efo cysylltiad â Llundain, a lein arall gan Reilffordd Amwythig a Birmingham hyd at Wolverhampton. Dechreuwyd eu gwasanaeth o Wolverhampton i Birmingham ar lein Rheilffordd y Great Western ym 1854, daeth Rheilffordd Amwythig, Croesoswallt a Chaer a Rheilffordd Amwythig, Croesoswallt a Chaer yn rhan o Reilffordd y Great Western. Agorwyd o Amwythig i Gryw gan Reilffordd Llundain a'r Gogledd Orllewin ym 1858. Erbyn Hyn mae trenau'n mynd ymlaen at Fanceinion.
Adeiladwyd Rheilffordd Amwythig a Henffordd gan gwmni Thomas Brassey hyd at Lwydlo ym 1850, a hyd at Henffordd erbyn 1853. Erbyn hyn, mae trenau'n mynd trwodd i Gaerdydd ac Aberdaugleddau.
Adeiladwyd rheilffordd rhwng Amwythig a Hartlebury gan Thomas Brassey, ac agorwyd y lein ar 31 Ionawr 1862. Agorwyd lein rhwng Y Trallwng ac Amwythig ym 1862. Yn hwyrach, adeiladwyd leiniau eraill gan sawl cwmni bach, sydd wedi uno i fod Rheilffyrdd Cambrian, gan gynnwys leiniau trwodd i Aberystwyth a Pwllheli.
Agorwyd lein rhwng Craven Arms (ar Reilffordd Amwythig a Henffordd) a Llanelli gan Reilffordd Llundain a'r Gogledd Orllewin; dyma Reilffordd Calon Cymru heddiw, sydd yn mynd hyd at Amwythig yn y gogledd.[2]
| Rheilffyrdd Amwythig | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
| |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Tydi a roddaist
[golygu | golygu cod]Cyfansoddwyd "Tydi a roddaist" gan Arwel Hughes yn ystod 20 munud ar y platfform ym 1938. Mae plac ar blatfform yn nodi'r ffaith.[3]
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Gorsaf reilffordd Amwythig
-
Golau lliw ar y mur - arwydd fod trên wedi cyrraedd
-
Rhan ucha, gyda chloc
-
Y platfform yn y nos
-
Y platform gyda phenau cerfiedig o garreg
-
Pen carreg yn yr orsaf
Gwasanaethau
[golygu | golygu cod]| Gorsaf gynt | Gorsaf nesaf | |||
|---|---|---|---|---|
| Terminws | Trafnidiaeth Cymru Llinell Amwythig i Gaer |
Gobowen | ||
| Church Stretton | Trafnidiaeth Cymru Llinell Gororau Cymru |
Yorton | ||
| Church Stretton | Trafnidiaeth Cymru De–Gogledd Cymru |
Gobowen | ||
| Terminws | Trafnidiaeth Cymru Llinell Calon Cymru |
Church Stretton | ||
| Casnewydd | Trafnidiaeth Cymru Premier Service |
Wrecsam Cyffredinol | ||
| Terminws | Trafnidiaeth Cymru Rheilffordd y Cambrian |
Y Trallwng | ||
| Gobowen | Trafnidiaeth Cymru Caer i Birmingham |
Wellington | ||
| Wellington | West Midlands Railway Llinell Wolverhampton i Amwythig |
Terminws | ||
| Wellington | West Midlands Railway Birmingham New Street i Amwythig |
Terminws | ||
| Wellington | Avanti West Coast Rheilffordd Arfordir y Gorllewin |
Terminws | ||
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gweafn transportheritage.com
- ↑ "Gwefan Shropshire History Trust". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-06-22. Cyrchwyd 2015-07-16.
- ↑ Gwefan waymarking.com
