Arwel Hughes
Jump to navigation
Jump to search
Mae'r erthygl hon yn sôn am y cyfansoddwr Cymreig Arwel Hughes, bu farw yn 1988. Am ei fab, sydd hefyd yn arweinydd, gweler Owain Arwel Hughes.
Arwel Hughes | |
---|---|
Ganwyd |
25 Awst 1909 ![]() Rhosllannerchrugog ![]() |
Bu farw |
23 Medi 1988 ![]() |
Dinasyddiaeth |
![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth |
arweinydd, cyfansoddwr ![]() |
Gwobr/au |
OBE ![]() |
Arweinydd cerddorfa a chyfansoddwr clasurol o Gymru oedd Arwel Hughes (25 Awst 1909 – 23 Medi 1988).
Cafodd ei eni yn Rhosllannerchrugog. Roedd yn dad i Owain Arwel Hughes.
Astudiodd 'Cyfansoddi' gyda Ralph Vaughan Williams, Gustav Holst a Prof. Kitson yng Ngholeg Cerddoriaeth Brenhinol Llundain.
Wedi iddo ddychwelyd i Gymru cafodd swydd yn y BBC ym 1935 a bu'n chwarae rhan bwysig yn natblygiad radio a theledu yng Nghymru. Chwaraeodd yntau ran bwysig yn natblygiad Gerddorfa Genedlaethol y BBC a hefyd Gwmni Opera Cenedlaethol Cymru. Ym 1965 fe wnaethpwyd ef yn Bennaeth Cerdd y BBC yng Nghymru tan ei ymddeoliad yn 1971.
Cafodd OBE gan Frenhines Lloegr am ei wasanaethau i gerddoriaeth yng Nghymru yn 1969.
Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
- Y Blwch (Cwmni Cyhoeddi Gwynn, 1984)
Cerddoriaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Opera[golygu | golygu cod y dudalen]
Cerddorfa[golygu | golygu cod y dudalen]
- Fantasia (1936)
- Anatiomaros (1943)
- Prelude for Orchestra (1945)
- Suite (1947)
- Saint Francis (1965)
- Symffoni (1971)
- Legend: Owain Glyndŵr, 1979
Corawl[golygu | golygu cod y dudalen]
- Tydi a Roddaist (T. Rowland Hughes) (1938)
- Gweddi (1944)
- Dewi Sant (1950)
- Pantycelyn (1963)
- Mab y Dyn (1967)
- The Beatitudes
- In memoriam (1969)
- Psalm 148 (1970)
- Mass for Celebration (1977)
- Gloria Patri (1986)