Neidio i'r cynnwys

Owain Arwel Hughes

Oddi ar Wicipedia
Owain Arwel Hughes
Ganwyd21 Mawrth 1942 Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaetharweinydd, llenor, hunangofiannydd Edit this on Wikidata
Gwobr/auCBE Edit this on Wikidata

Arweinydd cerddorfa o Gymru yw Owain Arwel Hughes, CBE (ganwyd 21 Mawrth 1942).

Ganwyd Hughes yn Ton Pentre, Rhondda, yn fab i'r cerddor ac arweinydd llwyddiannus Arwel Hughes. Mynychodd Ysgol Uwchradd Howardian Caerdydd, Prifysgol Caerdydd a'r Coleg Cerddoriaeth Brenhinol yn Llundain. Astudiodd arwain cerddorfa o dan Syr Adrian Boult, Bernard Haitink a Rudolf Kempe.[1][2]

Daeth yn adnabyddus ar ôl perfformiad cyffrous ar deledu o Belshazzar’s Feast gan William Walton, a enillodd ganmoliaeth y cyfansoddwr ei hun. Yn ddiweddarach cyflwynodd cyfres ar y BBC The Much-Loved Music Show. Mae wedi gwneud sawl recordiad yn cynnwys gweithiau Requiem Verdi a Messiah gan Handel. Mae wedi hyrwyddo cyfansoddwyr llai cyfarwydd, yn cynnwys cylch cyfan o symffoniau gan y cyfansoddwr Danaidd Vagn Holmboe.

Mae Hughes wedi bod yn Gadeirydd y Llywodraethwyr yn Ysgol John Lyon, Harrow. Mae;n briod i Jean ers dros 40 mlynedd ac mae ei fab Geraint Hughes yn gyn-ohebydd chwaraeon i BBC News ac yn gweithio ar hyn o bryd i Sky Sports.

Apwyntiadau

[golygu | golygu cod]

Mae apwyntiadau presennol a gorffennol Hughes yn cynnwys:[3]

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • Hughes, Owain Arwel (2012). Owain Arwel Hughes: My Life in Music (yn Saesneg). University of Wales Press. ISBN 9780708325308. Hunanfywgraffiad

Gwobrau ac anrhydeddau

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Conductor Owain Arwel Hughes publishes his autobiography" (yn Saesneg). Wales Online. 14 Medi 2012. Cyrchwyd 31 Hydref 2014.
  2. 2.0 2.1 "Owain Arwel Hughes" (yn Saesneg). BBC.
  3. "Owain Arwel Hughes CBE – Biography" (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-09-30. Cyrchwyd 10 Mehefin 2014.
  4. "Honorary Degrees" (yn Saesneg). University of Wales. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 Medi 2006.
  5. "Graddedigion er Anrhydedd / Honorary Graduates" (PDF) (yn Saesneg). University of Wales. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2014-08-13. Cyrchwyd 10 Mehefin 2014.
  6. "2007 Honorary Fellows" (yn Saesneg). Bangor University. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-12-15. Cyrchwyd 10 June 2014.
  7. "About Lampeter Chamber Orchestra" (yn Saesneg). Lampeter Chamber Orchestra. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 10 Mehefin 2014.