Thomas Brassey
Thomas Brassey | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 7 Tachwedd 1805 ![]() Caer ![]() |
Bu farw | 8 Rhagfyr 1870 ![]() o gwaedlif ar yr ymennydd ![]() Hastings ![]() |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | pensaer, peiriannydd, person busnes, peiriannydd sifil, peiriannydd rheilffyrdd ![]() |
Tad | John Brassey ![]() |
Mam | Elizabeth Perceval ![]() |
Priod | Maria Farringdon Harrison ![]() |
Plant | Albert Brassey, Thomas Brassey, iarll 1af Brassey, Henry Brassey, John Brassey ![]() |
Roedd Thomas Brassey yn beiriannydd sifil a chynhyrchydd nwyddau adeiladu, oedd yn gyfrifol am adeiladu rhan helaeth rheilffyrdd y byd yn ystod y 19eg ganrif. Erbyn 1847 roedd o wedi adeiladu tua threan y rheilffyrdd ym Mhrydain, ac erbyn ei farwolaeth ym 1870 roedd o wedi adeiladu 5 y cant o reilffyrdd y byd, gan gynnwys saith deg pump y cant o reilffyrdd Ffrainc, rheilffyrdd dros Ewrop ac yn Nghanada, Awstralia, De America ac India. Adeiladodd bontydd, ddociau, orsafoedd a thwnelli hefyd, heb sôn am longau, pyllau, ffatrioedd a threfnu systemau dŵr a charthffosydd. Adeiladodd rhan o system carthffosydd Llundain. Roedd ganddo gyfrandaliadau yn y llong ‘Great Eastern’, adeiladwyd gan Isambard Kingdom Brunel. Gadawodd ffortiwn o dros bum miliwn o bunnau, buasai’n werth tua chwe chant miliwn erbyn heddiw.[1]
Bywyd cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]
Cafodd Thomas Brassey ei eni ar 7 Tachwedd 1908; ei rieni oedd John Brassey, ffermwr, a’i wraig Elizabeth.[2] Cafodd addysg gartref hyd at 12 oed, ac aeth o wedyn i Ysgol King’s, Caer.[3] Pan oedd o’n 16 oed, daeth o’n brentis i dirfesurydd ac asiant, William Lawton. Tra oedd o’n brentis, roedd o’n cynorthwyydd i dirfesurydd yr A5 ac wedi cyfarfod â Thomas Telford. Daeth o’n bartner i William Lawton, a symudodd i Benbedw. Tyfodd eu cwmni i gynnwys perchnogaeth a rheolaeth dros chwareli, gwaith brics ac odynau calch. Defnyddiwyd eu brics yn Lerpwl a datblygwyd Brassey ffyrdd newydd o symud eu cynnyrch, megis paledau a rheilffordd yn defnyddio disgyrchiant rhwng chwarel a phorthladd. Bu farw Lawton, a daeth Brassey yn berchennog i'r cwmni.[2][4][5][6]
Gwaith cynnar ym Mhrydain[golygu | golygu cod y dudalen]
Dechreuodd Brassey ei yrfa fel peiriannydd sifil gan adeiladu ffordd 4 milltir yn Bromborough a phont yn Saughall Massie yng Nghilgwri[7] Cyfarfu George Stephenson tro oedd Stephenson yn adeiladu Rheilffordd Lerpwl a Manceinion ac awgrymodd Stephenson y dylai Brassey gweithio ar adeiladu rheilffyrdd. Adeiladodd Brassey draphont Penkridge ym 1837, yn ogystal â 10 milltir o’r rheilffordd rhwng Stafford a Wolverhampton. Mae’r draphont yn dal i sefyll ac yn cario trenau.[4] Wedyn enillodd o gytundebau i weithio ar Rheilffordd Llundain a Southampton, Rheilffordd Caer a Chryw, Rheilffordd Glasgow, Paisley a Greenock a Rheilffordd Manceinion a Sheffield.
Cytundebau cynnar yn Ffrainc[golygu | golygu cod y dudalen]
Pan sefydlwyd Rheilffordd Paris a Rouen, appoyntwyd Joseph Locke ei beiriannydd. Ystyriodd Locke bod cynigion y contractwyr Ffrangeg yn rhy ddrud, felly derbynnodd cynnig gan Thomas Brassey a William Mackenzie ym 1841. Enillodd Brassey a Mackenzie 4 cytundeb rhwng 1841 a 1844, gyda chyfanswm o 437 milltir, gan gynnwys Rheilffordd Orléans a Bordeaux. Ond, wedi’r chwyldro ym 1948, roedd creisis ariannol yn Ffrainc ac roedd rhaid i Brassey chwilio am waith rhywle arall.
Cwympiad traphont Barentin[golygu | golygu cod y dudalen]
Syrthiodd traphont Barentin ym mis Ionawr 1846, un o’r ychydig o drychinebau yn yrfa Brassey. Adeiladwyd y bont gyda brics, ac yn ôl y gytundeb, dylir ddefnyddio cynnyrch lleol, a syrthiodd y traphont ar ôl sawl diwrnod o law trwm.[4] Ailadeiladwyd y traphont yn defnyddio priddgalch gwahanol, a thalodd Brassey'r cost. Mae’r draphont yn sefyll hyd at heddiw, ac yn cael ei defnyddio o hyd.[4]
"Mania rheilffordd”[golygu | golygu cod y dudalen]
Cyrhaeddodd y mania tra oedd Brassey’n adeiladu rheilffyrdd yn Ffrainc. Adeiladwyd llawer o reilffyrdd ym Mhrydain. Ymunodd Brassey â’r mania, ond dewisodd ei gytundebau a buddsoddwyr yn ofalus.[2] Arwyddodd 9 cytundeb ym 1845, i adeiladu dros 340 milltir o reilffordd.[4] Dechreuodd Brassey a Locke Rheilffordd Caerhirfryn a Chaerliwelydd ym 1844 yn mynd trwy dyffryn Afon Lune, a dros Shap, 70 milltir o hyd.[2] Roedd ei waith ym 1845 yn cynnwys Rheilffordd Dyffryn Trent (50 milltir) a Rheilffordd Caer a Chaergybi (84 milltir), gan gynnwys Pont Britannia dros Afon Menai. Arwyddodd gytundeb i adeiladu Rhelffordd y Caledonian, rhwng Caerliwelydd, Glasgow a Chaeredin dros Beattock yn gweithio gyda’r peiriannydd George Heald[2] yn ystod 1845 a dechreuodd waith ar reilffyrdd eraill yn Yr Alban. Ym 1846, dechreuodd waith ar Reilffordd Swydd Gaerhirfryn a Swydd Efrog rhwng Lerpwl a Hull. Cafodd Brassey gytundeb i adeiladu 75.5 milltir o’r Rheilffordd y Great Northern yn 1847; roedd William Cubitt y brif beiriannydd i’r rheilffordd. Roedd problem gyda thir corsog y Ffens, a datrysodd Brassey’r broblem gyda chymorth gan Stephen Ballard, un o’i asientau. Gosodwyd haenau o goediach a mawn i greu sail cadarn.[4] Defnyddir y rheilffordd hyd at heddiw., yn rhan o brif linell yr arfordir dwyreiniol. Dechreuodd Brassey i adeiladu Rheilffordd Gogledd Swydd Stafford yn 1847. Erbyn diwedd y "Mania rheilffordd” roedd Brassey wedi adeiladu trean o reilffyrdd Prydain.[2]
Ehangu ei waith yn Ewrop[golygu | golygu cod y dudalen]
Wedi diwedd y “Railway Mania” ym Mhrydain, gweithiodd ar Reilffordd Barcelona a Mataró Railway (18 milltir o hyd) ym 1848. Ym 1850, gweithiodd ar Reilffordd Prato a Pistoia , (10 milltir) yn Yr Eidal, wedyn Rheilffordd Torino-Milan (60 milltir rhwng Torino a Novara ym1853 a Rheilffordd Canoldir yr Eidal (52 milltir). Yn cydweithio gyda Samuel Morton Peto, adeiladodd Brassey’r [[Rheilffordd Oslo-Bergen (56 milltir). Yn Ffrainc, adeiladodd 133 milltir o cledrau ar Reilffordd Mantes a Caen ym 1852, a Rheilffordd Caen a Cherbourg (94 milltir) ym 1854. Yn cydweithio gyda Joseph Locke, adeiladodd y Rheilffordd Dutch Rhenish (43 milltir) yn Yr Iseldiroedd ym 1852. Yn y cyfamser, adeiladodd llinell Gororau Cymru (51 milltir) ar gyfer Rheilffordd Amwythig a Henffordd, Rheilffordd Henffordd, Ross, a Chaerloyw (50 milltir), Rheilffordd Llundain, Tilbury a Southend (50 milltir) a Rheilffordd Gogledd Dyfnaint rhwng Minehead a Barnstaple (47 milltir).
Rheilffordd Grand Trunk, Canada[golygu | golygu cod y dudalen]
Arwyddodd Brassey gytundeb fwyaf ei yrfa ym 1852, i adeiladu Rheilffordd Grand Trunk, Canada, rhwng Quebec a Toronto, 539 milltir o hyd. Peiriannydd y prosiect oedd Alexander Ross a’r peiriannydd ymgynghorol oedd Robert Stephenson. Cydweithiodd Brassey gyda Peto, Betts a Syr William Jackson.
Aeth y rheilffordd ar draws Afon St Lawrence ym Montreal ar Bont Fictoria, Pont diwb cynlluniwyd gan Stephenson, pont hiraf y byd ar y pryd, 1.75 milltir o hyd. Agorwyd y bont ym 1859, ac yn swyddogol ym 1860 gan Dywysog Cymru.[4]
Roedd problemau’n codi arian i’r prosiect; aeth Brassey i Ganada unwaith i apelio am gymorth ariannol. Roedd y prosiect yn fethiant ariannol, a collodd y cytundebwyr filiwn o bynnau.[2]
Gwaith Canada[golygu | golygu cod y dudalen]
Cynhwysodd ei gytundeb i’r reilffordd y defnydd i gyd i adeiladu’r rheilffordd, gan gynnwys y cerbydau. Adeiladwyd ffatri, y Gwaith Canada, ym Mhenbedw i adeiladu popeth sy’n cynnwys metel. Darganfuwyd safle addas gan George Harrison, brawd yng nghyfraith Brassey. Daeth Harrison rheolwr y ffatri. Adeiladwyd cei ar ochr y ffatri. Cedwyd peiriannau mewn adeilad 900 troedfedd o hyd, yn cynnwys gefail gyda 40 o ffwrneisi, einionau, gordd ager, gweithdy copor, gweithdy coed, siopau patrwm, llyfrgell ac ystafell ddarllen i’r gweithlu. Cynlluniwyd y siop ffitio i adeiladu 40 o locomotifau’n flynyddol, a chynhyrchwyd 300 dros yr 8 mlynedd dilynol. Enwyd yr un cyntaf, ym Mai 1854, yr enw ‘Lady Elgin’, ar ôl gwraig Llywodraethwr Cyffredinol Canada, yr Arglwydd Elgin. Roedd angen canoedd o filoedd o ddarnau i adeiladu’r bont; crewyd y cwbl ym Mhenbedw neu ffatrioedd eraill yn Lloegr.[5] Roedd angen dros 10,000 o ddarnau haearn i greu tiwb canolog y bont, gyda tyllau i ffitio hanner miliwn o rybedi.[2]
Rheilffordd y Grand Crimean Central[golygu | golygu cod y dudalen]
Anfonwyd 30,000 o filwyr o Brydain, Ffraind a Thwrci i ymosod ar Sevastopol ym 1854 yn ystod y Rhyfel Crimea. Roedd hi’n anodd symud nwyddau, bwyd, arfau ac ati, a chynigwyd Brassey, Peto a Betts i adeiladu rheilffordd. Anfonwyd offer, gweithwyr a defnyddiau. Adeiladwyd rheilffordd rhwng Balaclafa a Sevastopol ar ôl saith wythnos.[8]
Gweithio’n fyd eang[golygu | golygu cod y dudalen]

Adeiladodd Brassey rheilffyrdd yn Ne America, Awstralia, yr India a Nepal.[2] Oherwydd cwymp Banc Overend Gurney ym 1866, roedd problemau cyllidol mawr ym Mhrydain, ond goroesodd Brassey. Adeiladodd Reilffordd Lviv a Chernivtsi er digwyddodd y Rhyfel Awstro-Prwsaidd ar yr un adeg.[2] Daeth o’n afiach o 1867 ymlaen, ond adeiladodd Reilffordd Chernivtsi a Suczawa. Erbyn iddo farw roedd o wedi adeiladu 5 y cant o filltiroedd o reilffyrdd yn y byd.[2]
Cytundebau eraill[golygu | golygu cod y dudalen]
Adeiladodd Brassey ffatri peirianwaith yn Ffrainc. Adeiladodd o systemau draeniad a gwaith dŵr yn Kolkata. Adeiladodd o ddociau yn Greenock, Penbedw, Barrow a Llundain. Agorwyd y dociau yn Llundain ym 1857. Roedd sawl warws a seler gwin. Roedd gan y dociau gysylltiad gyda Rheilffordd Llundain, Tilbury and Southend, un o reilffyrdd Brassey.[4]
Rhwng 7 Tachwedd 1805 ac 8 Rhagfyr 1870[golygu | golygu cod y dudalen]
Adeiladodd Brassey carthfosydd yn Llundain ym 1861, rhan o gynllun Joseph Bazalgette. Adeiladodd 12 milltir o’r ffos Lefel Canol, o Kensal Green, o dan Heol Bayswater, Stryd Rhydychen a Clerkenwell, hyd at Afon Lea. Ystyriwyd y tasg un o’r caletach y whaeth o[9].[10]
Rhoddodd Brassey gymorth cyllidol i Brunel i adeiladu’r llong SS Great Eastern. Roedd Brassey yn gyfandaliwr yn y prosiect, ac ar ôl marwolaeth Brunel, prynodd, gyda Gooch a Barber, y llong i osod y gablen delegraff gyntaf ar draws y Môr Iwerydd ym 1864.[11] Roedd ganddo cynllun i adeiladu twnnel o dan y Sianel, ond doedd gan y llywodraethau ddim diddordeb. Roedd ganddo’r syniad o adeiladu camlas dros Panama hefyd.[12]
Dullau gweithio[golygu | golygu cod y dudalen]

Fel arfer, gweithiodd Brassey gyda chontractwyr eraill, yn aml Peto a Betts. Cynlluniwyd manylion y prosiectau gan y peirianyddion., sy wedi cynnwys Robert Stephenson, Joseph Locke ac Isambard Kingdom Brunel.[13] Rheolwyd gwaith is-contractwyr gan asiantau.[14] Gwnaeth ‘Navvies’ mwyafrif y gwaith. Roedd y mwyafrif yn Saeson yn y dyddiau cynnar, a daeth llawer ohonynt o waith ar camlesi. Yn hwyrach, daeth mwy o’r Alban, Cymru ac Iwerddon, yn arbennig ar ôl y newyn yn Iwerddon. Roddwyd bywyd, lloches, gwisg ac yn achlysurol llyfrgell i’r gweithwyr. Gweithiodd pobl leol ar y cytundebau tramor, neu weithiau gweithwyr o Brydain. Roedd asiantau’n gyfrifol am y prosiectau, yn derbyn canran yr elw, weithiau gyda bonws i orffen yn gynnar a chosb am orffen yn hwyr.[2]
Cyflogodd Brassey cannoedd o asiantau; Ar ôl iddo arwyddo cytundeb waith, roedd digonedd o bres ar gael i’r asiant. Pe tasai’r asiant wedi cwblhau’r gwaith yn rhatach, roedd yr asiant yn rhydd i gadw’r gweddill. Os oedd problemau annisgwyl, buasai Brassey’n rhoi pres ychwanegol iddynt.[15] Dros cyfnod o fwy na 20 mlynedd, cyflogodd Brassey tua 80,000 o weithwyr dros 4 cyfandir.[16] Nid oedd ganddo swyddfa neu bobl i wneud y gwaith gweinyddol; gwnaeth Brassey y cwbl. Roedd ganddo was ac ariannydd.[17]; [18]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Gwefan www.royprecious.co.uk
- ↑ 2.00 2.01 2.02 2.03 2.04 2.05 2.06 2.07 2.08 2.09 2.10 2.11 Charles Walker, Thomas Brassey, Railway Builder (Frederick Muller, 1969)
- ↑ Webarchive|url=https://web.archive.org/web/20111215071558/http://www.kingschester.co.uk/extras/KingsAlumni/inspirationalAlumni.html |date=2011-12-15 Gwefan Ysgol King’s
- ↑ 4.0 4.1 4.2 4.3 4.4 4.5 4.6 4.7 Arthur Helps, Life and Labours of Thomas Brassey (Elibron Classics, 2005)
- ↑ 5.0 5.1 Tom Stacey, Thomas Brassey: The Greatest Railway Builder in the World (Stacey International, 2005)
- ↑ Doug Haynes, "The Life and Work of Thomas Brassey", Cheshire History
- ↑ Gwefan iccheshireonline: ‘ Village bridge the first by engineering giant’ gan Liam Murphy; Daily Post, 21 Tachwedd 2005
- ↑ Brian Cooke, The Grand Crimean Central Railway, Knutsford (Cavalier House)
- ↑ ’Life and Labours of Thomas Brassey’ gan Arthur Helps; Cyhoeddwyr Elibron Classics 2005; isbn=978-1-4021-0563-0
- ↑ ’Life and Labours of Thomas Brassey’ gan Arthur Helps; Cyhoeddwyr Elibron Classics 2005; isbn=978-1-4021-0563-0
- ↑ ’Thomas Brassey, Railway Builder’ gan Charles Walker; cyhoeddwr Frederick Muller, 1969; isbn =0-584-10305-0
- ↑ ’Thomas Brassey, Railway Builder’ gan Charles Walker; cyhoeddwr Frederick Muller, 1969; isbn =0-584-10305-0
- ↑ ’Thomas Brassey: The Greatest Railway Builder in the World’ gan Tom Stacey; cyhoeddwyr Stacey International, 2005; isbn =1-905299-09-5
- ↑ ’Thomas Brassey, Railway Builder’ gan Charles Walker; cyhoeddwr Frederick Muller, 1969; isbn =0-584-10305-0
- ↑ ’Thomas Brassey: The Greatest Railway Builder in the World’ gan Tom Stacey; cyhoeddwyr Stacey International, 2005; isbn =1-905299-09-5
- ↑ ’Thomas Brassey: The Greatest Railway Builder in the World’ gan Tom Stacey; cyhoeddwyr Stacey International, 2005; isbn =1-905299-09-5
- ↑ ’Thomas Brassey: The Greatest Railway Builder in the World’ gan Tom Stacey; cyhoeddwyr Stacey International, 2005; isbn =1-905299-09-5
- ↑ ’Thomas Brassey, Railway Builder’ gan Charles Walker; cyhoeddwr Frederick Muller, 1969; isbn =0-584-10305-0