Cwm Elan
Cwm ger Rhaeadr Gwy ym Mhowys yw Cwm Elan, sef dyffryn afon Elan. Mae'n ardal brydferth a diarffordd wrth odre bryniau Elenydd ac ychydig i'r gogledd o Raeadr Gwy. Mae'n gorchuddio 70 milltir sgwâr (180 km2) - yn ddŵr ac yn dir amaethyddol, Llyn Elan a phentref Elan. Mae dros 80% o'r dyffryn wedi'i nodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.
Agorwyd y cyntaf o gronfeydd Elan ar yr 21 Gorffennaf 1904 er mwyn cyflenwi dŵr i ddinas Birmingham yn Lloegr. Cafodd dros gant o'r gweithwyr a oedd yn codi'r argae eu lladd yn ystod y gwaith. Dioddefodd y bobl leol hefyd. Bu rhaid i tua chant o'r trigolion symud o'u cartrefi. Diflannodd yr ysgol, yr eglwys a'r capel, ynghyd â nifer o ffermydd a bythynnod.
- Cronfeydd Cwm Elan
Tua'r adeg hon y crewyd cronfa Claerwen, i'r gorllewin o Gwm Elan.
Mae'r SAS yn ymarfer yn yr ardal.