Cofiwch Dryweryn
Tryweryn |
Capel Celyn |
Mesur Tryweryn |
Tri Tryweryn |
Ffermydd a foddwyd yng Nghwm Tryweryn |
Llyn Celyn |
Cofiwch Dryweryn |
( | )
Enghraifft o'r canlynol | slogan gwleidyddol |
---|---|
Crëwr | Meic Stephens |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae "Cofiwch Dryweryn" yn arwyddair sy'n cyfeirio at foddi Capel Celyn ym 1965 i greu cronfa ddŵr ar gyfer trigolion Lerpwl. Mae'r arwyddair yn annog y Cymry Cymraeg i gofio'r dinistriad o gymuned Gymraeg ac i ddiogelu'r iaith.
Mae'r ymddangosiad enwocaf o'r ymadrodd yn graffito ar fur ger yr A487 yn Llanrhystud, y tu allan i Aberystwyth. Meic Stephens oedd y cyntaf i baentio'r mur yn y 1960au, gyda'r slogan 'Cofiwch Tryweryn' heb dreiglad.[1] Mae'r wal honno yn rhan o hen dŷ ffarm oedd yn sefyll yno ers y 19G.[2]
Difrodi ac adfer
[golygu | golygu cod]Mae'r graffito wedi ei ail-baentio sawl gwaith, weithiau yn dilyn negeseuon a ychwanegwyd i'r mur gan eraill. Drwy hyn fe gywirwyd y 'Tryweryn' gwreiddiol i 'Dryweryn'.[3]
Yn 1991, roedd Rhys ap Hywel a Daniel Simkins yn ddisgyblion chweched dosbarth yn Ysgol Penweddig a phenderfynodd y ddau fynd ati i adnewyddu'r arwydd gan beintio'r wal yn wyn a'r geiriau mewn du, gan arwyddo ei gwaith gyda llythrennau cyntaf eu henwau. Peintiwyd y gair "Trywerin" mewn camgymeriad, ond sylweddolwyd fod hynny'n anghywir y diwrnod wedyn. Yn yr ysgol, cafodd Rhys ei gadw nôl gan ei athrawes Cymraeg, Nia Jones, am ei bod wedi sylwi ar y camsillafiad. Aeth yn ôl y diwrnod wedyn i'w gywiro, gan ychwanegu "Sori Miss!" wrth ei ymyl.[4]
Yn 2003, perfformiwyd sioe "Ac ar derfyn y dydd ddaeth y dŵr" gan Gymdeithas Ieuenctid yr Urdd Ceredigion yn Theatr Felinfach. Roedd y sioe yn codi ymwybyddiaeth o hanes Tryweryn ac fel rhan o'r prosiect, aeth aelodau CIC i ail-beintio'r geiriau.[5] Ym Mai 2008, newidiwyd y neges i "Anghofiwch Dryweryn".[6]
Yn Ebrill 2010 peintiwyd dros y geiriau gyda graffito arall. Roedd cynlluniau ar y pryd i atgyweirio ac amddiffyn y wal. Lansiwch ymgyrch er mwyn ceisio codi tua £80,000, gyda Cadw yn cytuno i gyfrannu tuag at y gronfa. Fodd bynnag, ni wnaed unrhyw newidiadau ffurfiol i statws y wal a roedd fandaliaeth pellach yn 2013 a 2014.[7][8]
Yn 2017, ychwanegwyd y geiriau "Cofiwch Aberfan 1966" o dan y neges wreiddiol. Ail-baentiwyd y wal i'r neges wreiddiol yn Awst 2018.
Ar ddechrau Chwefror 2019 paentiwyd dros y slogan gyda graffiti yn dweud "Elvis ♥". O fewn diwrnod, aeth criw o bobl ifanc ati i ail-baentio'r wal gyda'r slogan gwreiddiol. Roedd galw eto gan rai i ddiogelu'r murlun.[9] Yn Ebrill 2019 ychwanegwyd y llythrennau 'AGARI' ar waelod y mur ond fe baentiwyd dros y gair o fewn oriau.[10] Y diwrnod canlynol fe chwalwyd rhan o'r wal yn llwyr, yn fwriadol mae'n debyg.[11] Aeth rhai ati i ail-adeiladu'r wal yr un diwrnod ac roedd yr heddlu am gynnal ymchwiliad.[12]
Ar ddiwedd Mehefin 2020 peintiwyd symbyliaeth hiliol ar y gofeb, gyda swastica a symbol 'pŵer gwyn'.[13] Glanhawyd y wal o fewn y diwrnod.[14]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Cofiwch Tryweryn? , BBC Cymru Fyw, 25 Mawrth 2015. Cyrchwyd ar 10 Chwefror 2017.
- ↑ https://golwg360.cymru/archif/24166-graffiti-yn-difetha-wal-cofiwch-dryweryn , Golwg360, 13 Ebrill 2019.
- ↑ (Saesneg) Morgan, Sion (13 Hydref 2010). Bid to preserve the iconic ‘Cofiwch Dryweryn’ wall. Western Mail. Adalwyd ar 24 Chwefror 2013.
- ↑ Cyfweliad Rhys ap Hywel ar fi di duw, 2010; cyrchwyd 6 Chwefror 2019
- ↑ Y theatr gymunedol sy'n plesio pawb. , Western Mail, 6 Rhagfyr 2003. Cyrchwyd ar 6 Chwefror 2019.
- ↑ "Anger over memorial wall attack". BBC. 13 Mai 2008.
- ↑ Morgon, Sion (13 Hydref 2010). "Bid to preserve the iconic 'Cofiwch Dryweryn' wall". Wales Online. Cyrchwyd 5 Awst 2018.
- ↑ 'National landmark' Cofiwch Dryweryn is defaced , BBC News, 29 Ebrill 2019.
- ↑ Dyn ifanc yn teimlo 'dyletswydd' i adfer cofeb Tryweryn , BBC Cymru Fyw, 4 Chwefror 2019.
- ↑ Adfer wal ‘Cofiwch Dryweryn’ , Golwg360, 12 Ebrill 2019. Cyrchwyd ar 13 Ebrill 2019.
- ↑ Chwalu rhan o wal Cofiwch Dryweryn , Golwg360, 13 Ebrill 2019.
- ↑ Galw am warchod wal Tryweryn wrth i’r heddlu gynnal ymchwiliad , Golwg360, 13 Ebrill 2019.
- ↑ (Saesneg) Cofiwch Dryweryn mural vandalised with swastika and white power symbol. Nation.Cymru (30 Mehefin 2020).
- ↑ Swastika a graffiti hawliau pobol â chroen gwyn ar wal Cofiwch Dryweryn eto , Golwg360, 30 Mehefin 2020.
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Y murlun yn 2008
-
Y murlun yn 2017
-
Y murlun yn 2019
-
Talcen siop ym Mhenybont ar Ogwr
-
Buarth Ysgol Pen Barras, Rhuthun, a beintiwyd yn 2019
-
Protest a oedd yn rhan o Orymdaith Cyntaf YesCymru a AUOBCymru yng Nghaerdydd, Mai 2019