Neidio i'r cynnwys

Craig Elvis

Oddi ar Wicipedia
Craig Elvis
Mathcraig Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.4409°N 3.7654°W Edit this on Wikidata
Map

Craig wrth droed Pumlumon Fawr ar ochr ffordd yr A44, ger Eisteddfa Gurig, Ceredigion, yw Craig Elvis sydd â graffito arni yn darllen "ELVIS".

Un noson Mehefin ym 1962, John Hefin a David Meredith a baentiodd y gair "ELIS" yn goch ar gefndir gwyrdd i gefnogi Islwyn Ffowc Elis, ymgeisydd Plaid Cymru yn is-etholiad Sir Drefaldwyn. Ychydig o ddyddiau'n hwyrach cafodd y gair ei addasu i fod yn "ELVIS".[1] Tybir taw un o selogion y canwr Americanaidd Elvis Presley a wnaeth, ac yn ôl y sôn roedd Islwyn Ffowc yn ddigon bodlon i gael ei enw ar yr un llwyfan â Brenin y Canu Roc. Erbyn heddiw mae'r graig yn cael ei hystyried yn deyrnged genedlaethol Cymru i Elvis Presley.[2]

Paentiodd yr arlunydd Wynne Melville Jones ddarlun o Eisteddfa Gurig a'r graig. Cafodd copi ohono ei gyflwyno i gasgliad Graceland, hen gartref Presley sydd bellach yn amgueddfa ac archifdy iddo.[2]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Galw am 'adfer' craig Elvis". BBC. 31 Ionawr 2005. Cyrchwyd 20 Tachwedd 2012.
  2. 2.0 2.1 "Teyrnged i Elvis ar ei ffordd o Gymru i Graceland". BBC. 26 Mai 2016. Cyrchwyd 18 Gorffennaf 2016.