Eisteddfa Gurig

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Eisteddfa Gurig
Math pentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Ceredigion Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 52.4°N 3.8°W Edit this on Wikidata

Pentref gwledig bychan bron ar y ffin rhwng Ceredigion a Phowys yw Eisteddfa Gurig. Mae ar ffordd yr A44 tua hanner ffordd rhwng Aberystwyth i'r gorllewin a Rhaeadr Gwy i'r dwyrain.

Eisteddfa Gurig a'r afon Tarenig.

Fe'i lleolir ar y bwlch ar y ffordd honno gyda bryniau Pumlumon i'r gogledd. Rhed Afon Tarenig trwy Eisteddfa Gurig i gyfeiriad y dwyrain i ymuno yn Afon Gwy yn is i lawr y cwm.

Enwir Eisteddfa Gurig ar ôl Sant Curig. Dywedir ei fod yn mynd yno i fyfyrio o'i glas yn Llangurig, 8 milltir i lawr y lôn i'r dwyrain.

Mae Eisteddfa Gurig yn fan poblogaidd gan gerddwyr ar gyfer cychwyn am gopa Pumlumon, sydd 2 filltir i ffwrdd. Ceir adfeilion sawl cloddfa plwm yn yr ardal.

Saif "Craig Elvis" ger y pentref.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]