Afon Elan
Gwedd
| Math | afon |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 202 metr |
| Cyfesurynnau | 52.2833°N 3.5167°W |
![]() | |

Afon yng nghanolbarth Cymru sy'n un o lednentydd afon Gwy yw afon Elan. Mae'r afon yn ffurfio Cwm Elan. Adeiladwyd sawl argae ar draws yr afon i greu cronfeydd o faint sylweddol.
Ceir tarddle'r afon ar ucheldir Elenydd, i'r de-ddwyrain o bentref Cwmystwyth, tua cyf. OS SN819736. Llifa tua'r dwyrain ac yna tua'r de-ddwyrain, gydag afon Gwngu yn ymuno â hi. Llifa i mewn i Gronfa Craig Goch, yna i Cronfa Penygarreg ac ymlaen i Gronfa Garreg Ddu ac yna i Gronfa Caban Coch.
Llifa allan o ben gogleddol Cronfa Caban Coch a heibio Pentref Elan i ymuno ag Afon Gwy ychydig islaw tref Rhaeadr Gwy.
