Trisant

Oddi ar Wicipedia
Trisant
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.3622°N 3.8883°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN715755 Edit this on Wikidata
Cod postSY23 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auElin Jones (Plaid Cymru)
AS/auBen Lake (Plaid Cymru)
Map

Pentref bach yng nghymuned Pontarfynach, Ceredigion, yw Trisant.[1][2] Fe'i lleolir tua dwy filltir i'r de o bentref Bontarfynach a thua 3 milltir i'r gorllewin o Bont-rhyd-y-groes.

Hanes[golygu | golygu cod]

Mae'r ardal wedi cael ei henwi ar ôl eglwys Llantrisant, oedd yn ferch eglwys ym mhlwyf Llanfihangel y Creuddyn. Nid yw'n hysbys pwy oedd y tri sant gwreiddiol, ond fe ail gysegrwyd yr eglwys yn yr oes fodern i dri o saint amlycaf Cymru o'r 6g (Oes y Saint) sef Dewi, ein nawddsant, a'i gyfoeswyr Padarn a Teilo.

Darganfuwyd tair carreg Gristnogol yn Llantrisant, a phob un wedi ei cherfio gyda chroes seml sydd yn dyddio o "Oes y Saint", ac yn awgrymu bod eglwys gynnar wedi ei sefydlu yma. Mae'r tair carreg yn cael eu harddangos tu allan i'r eglwys gyda hysbysfwrdd yn nodi'r hanes. I'r dwyrain o Lantrisant mae "Llwybr y Llan", sef hen "ffordd eirch" y byddai trigolion Cwmystwyth yn ei dilyn i gladdu eu meirw. Pan adeiladwyd eglwys newydd yn yr Hafod yn ardal Cwmsytwyth yn 1620 ni ddefnyddiwyd y ffordd ddim mwy, ac fe aeth Eglwys Llantrisant yn adfail erbyn yr 1800 au cynnar. Ail adferwyd yr eglwys ym 1883.

Roedd llwybrau'r pererinion yn rhedeg drwy Trisant i gyfeiriad Abaty Ystrad Fflur sydd tua 10 milltir i'r dwyrain i gyfeiriad Pontrhydfendigaid. Credir bod mynachod yn troedio'r llwybrau ar eu taith o Ynys Enlli gan lanio ar y traethau ger Y Borth, ac yna yn gwneud eu ffordd ar draws gwlad a chael seibiant yn Ysbyty Cynfyn, sydd nepell o Bonterwyd. Credir mai'r mynachod adeiladodd y bont gyntaf ar draws yr afon Mynach gan roddi'r ystyr i enw'r pentref, sef 'Pontarfynach'. Mae yna ffermdy yn Nhrisant o'r enw "Rhydypererinion", ynghyd ag enwau nifer o bentrefi megis Pontrhydygroes, Ysbyty Ystwyth a Phontrhydfendigaid sydd yn awgrymu cyfeiriad taith y pererinion.

Y diwydiant mwyngloddio a gwaith Frongoch[golygu | golygu cod]

Ar un adeg fe fu diwydrwydd mawr yn yr ardal, yn arbennig yng Ngwaith Mwyn Frongoch yn y 19eg ganrif. Rhwng 1830 a 1903 roedd y diwydrwydd mwyaf gyda channoedd o weithwyr yn cael eu cyflogi. Cafodd tri llyn mawr, a nifer o lynnoedd llai eu cronni yn yr ardal er mwyn sicrhau cyflenwad digonol o ddwr i yrru peiriannau'r gwaith. Enwau'r tri llyn mwyaf oedd Frongoch, Glandwgan a Rhosrhydd. Daeth gweithwyr o Gernyw a'r Eidal i weithio i Frongoch. Adeiladwyd capel ar gyfer y gweithwyr o Gernyw yng Nghwm Cell a'i enwi'n "Capel Saeson". Yn ddiweddarach, mabwysiadwyd yr adeilad gan yr Eidalwyr er mwyn cynnal gwasanaethau Catholig.

Ychydig islaw fferm Cwmnewyddion Uchaf mae cragen o adeilad a adeiladwyd ym 1899 gan gwmni o Wlad Belg er mwyn gosod peiriannau, fyddai'n darparu trydan i weithfeydd Frongoch. Ar dir yn uchel uchlaw'r pwerdy mae olion yr argae lle arferid cronni'r dŵr fyddai'n bwydo'r tyrbin.

Ar y ffordd i Bontrhydygroes, fe adeiladwyd rhes o dai pwrpasol ar gyfer gweithwyr y gwaith mwyn sef "New Row". Yma hefyd yr adeiladwyd siop i ddarparu nwyddau ac anghenion ar gyfer gweithfeydd mwyngloddio Stad y Trawscoed. Rhedai coetsis rhwng New Row ac Aberystwyth yn gyson i gyflenwi'r siop.

Capel Methodistaidd Trisant[golygu | golygu cod]

Yng nghanol yr ardal fe adeiladwyd Capel Methodistaidd Trisant ym 1820, ynghyd â thŷ capel, festri ac adeilad ar gyfer cynnal Ysgol ddyddiol. Bu'r ysgol yn darparu addysg tan 1947 pan gafodd ei chau gan mai dim ond pedwar o blant oedd yno ar y pryd. Symudodd yr athrawes a'r plant lawr i Ysgol Mynach. Ym mis Mehefin 2002, cynhaliwyd gwasanaeth i ddatgorffori Capel Trisant pan gafodd ei gau. Gwerthwyd y capel, y tŷ capel a'r hen ysgol. Mae'r fynwent yn parhau ym meddiant Trefniadaeth y Methodistiaid Calfinaidd.

Dyma Emyn a gyfansoddwyd gan y Parch Owen T. Evans, Aberystwyth, ar achlysur dadgorffori Capel Trisant ar Sul y Pentecost, Mehefin 2002 (gwelir copi hefyd yn ei gyfrol Pen yr Aber).

   Emyn Dadgorffori Capel Trisant
Wrth droi yr allwedd yn y drws, o Grist
Ac am yr olaf waith ni byddwn drist,
Ond gwna ni’n feini bywiol er dy glôd,
Ar faes y byd yn llif y mynd a’r dod.

Sancteiddia di bob hanes am a fu,
O'r cyrchu sanctaidd yma gyda'r llu
A phâr i’n glywed eto ddyblu'r gân,
Ar don ein hiraeth, a swn procio’r tân.

Na ddigalonwn Arglwydd am a ddaw
"Mae’n tynnu yma i lawr yn codi draw"
Nid teml o goed a maen a geisi di.
Ond mwy o gariad yn ein bywyd ni.

Rwyt Ti yn fwy na'r cyfundrefnau i gyd,
Dy Bentecost sy'n cerdded drwy ein byd.
Tydi sy'n dal o hyd i wrando llef
O dan y pontydd draw a glas y nef.

Er teimlo'r gwacter a gweld llawer craith
A chrynu o'r gwyr cryfion ar y daith
Rho dinc y gobaith bywiol yn ein cri
Cans ni bydd cau ar ddrws dy deyrnas di.

Clwb Ffermwyr Ifanc Trisant[golygu | golygu cod]

CFfI Trisant

Ym mis Ionawr 1969 fe sefydlwyd Clwb Ffermwyr Ifanc Trisant. Yr arweinydd cyntaf oedd gwraig fferm leol, sef Mrs Gloria Williams Evans, Rhydypererinion. Ym mis Ionawr 2019 roedd y Clwb yn 50 oed ac fe gynhaliwyd cyfres o ddathliadau. Mae'r clwb yn cwrdd yn wythnosol yn Ysgol Mynach ac yn cyfrannu'n helaeth at ddigwyddiadau CFfI Ceredigion a CFfI Cymru.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Cofnodion llyfrau log Ysgol Trisant (Archifdy Ceredigion)
  • Hysbysfwrdd gwybodaeth Cyngor Sir Ceredigion
  • Cofnodion Clwb Ffermwyr Ifanc Trisant 1969-2019
  • Taflen dadgorffori Capel Methodistaidd Trisant, Mehefin 2002
  • Papur bro Y Ddolen rhifyn 446 (Mawrth 2019)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 26 Ionawr 2021