Allen Raine

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Nofelydd poblogaidd o Gymraes oedd Anne Adaliza Beynon Puddicombe (née Evans), neu Allen Raine (6 Hydref, 1836 - 21 Mehefin, 1908).[1]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganed yr awdur yn nhref Castell Newydd Emlyn yn 1836 yn ferch i Benjamin a Letitia Grace Evans. Roedd ei thad (yn ŵyr i David Davies o Gastellhywel neu Dafis Castellhywel fel yr adnabyddid ef) yn gyfreithiwr a'i mam yn wyres i'r Parch. Daniel Rowland. Buont yn byw yng Nglandŵr, Tresaith hyd at 1872.[2] Fe'i danfonwyd i fyw i Cheltenham a Wandsworth ac yna i Lundain gyda'i chwaer a dychwelodd yn ôl i Gymru yn 1856. Yn 1872 symudodd Anne yn ôl i Lundain wedi iddi briodi'r banciwr (gyda Banc Smith Payne, Llundain) ac arlunydd[3] Beynon Puddicombe. Yno y cychwynodd ysgrifennu o dan y llysenw Allen Raine. Cyhoeddodd “A Welsh Singer” yn 1896, ar ol iddi rannu’r wobr gyntaf am nofel o'r enw Ynysoer yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon yn 1894. Dychwelodd y ddau i Dresaith yn 1900 pan drawyd Beynon Puddicombe gyda salwch meddwl. Buont yn byw ym "Mronmôr", Tre-saith, Ceredigion, lle bu farw Beynon ym mis Mai 1906. Bu Anne farw ar 21 Mehefin 1908.

Addaswyd tri o'i llyfrau ar gyfer ffilm: Torn Sails (1915), A Welsh Singer (1920) a By Berwen Banks (1920).

Roedd ganddi gysylltiadau â Sarah Jacobs y ferch a ymprydiodd o Llanfihangel ar Arth. Cafodd Anne ei chladdu ym mynwent eglwys plwyf Penbryn, ger Tre-saith, lle priododd; yn y pentref bychan lle treuliodd chwarter canrif olaf ei hoes.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Ynysoer (stori arobryn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon; 1894). Newidiwyd yr enw pan gyhoeddwyd y gwaith ar ffurf nofel yn 1909 i Where Billows Roll.
  • A Welsh Singer (1896)
  • Torn Sails (1897)
  • By Berwen Banks (1899)
  • Garthowen (1900)
  • A Welsh Witch (1902)
  • On the Wings of the Wind (1903)
  • Hearts of Wales (1905)
  • Queen of the Rushes (1906)
  • Neither Storehouse nor Barn (1908)
  • All in a Month(short story collection; 1908)
  • Where Billows Roll (originally Ynysoer, Eisteddfod winner 1894) (1909)
  • Under the Thatch (1910)

Ffilmiau[golygu | golygu cod y dudalen]

Torn Sails (1915), A Welsh Singer (yn serennu Florence Turner 1920) a By Berwen Banks (1920).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]