Ellis Pierce

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Ellis Pierce
Ffugenw Elis o'r Nant Edit this on Wikidata
Ganwyd 29 Ionawr 1841 Edit this on Wikidata
Dolwyddelan Edit this on Wikidata
Bu farw 31 Gorffennaf 1912 Edit this on Wikidata (71 oed)
Dolwyddelan Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth llyfrwerthwr, Ysgrifennwr Edit this on Wikidata

Llyfrwerthwr ac awdur o Gymru oedd Ellis Pierce (29 Ionawr 1841 - 31 Gorffennaf 1912).

Cafodd ei eni yn Nolwyddelan yn 1841 a bu farw yn Nolwyddelan. Cymerodd ran amlwg mewn dadleuon newyddiadurol ar faterion addysg, pwnc y tir, a gwelliannau cymdeithasol, ac ysgrifennodd lawer ar hanes a hynafiaethau lleol. Drwy ei ysgrifau beiddgar gwnaeth iddo'i hun elynion erlidgar. Yn 1870, bu raid iddo gilio i Utica yn yr Unol Daleithiau, ond dychwelodd yn 1874, gan ddechrau busnes deithiol i werthu llyfrau a mân nwyddau cyffredinol.

Mae gan y Llyfrgell Genedlaethol Cymru casgliad archifau am y person yma.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]